David Vaughan
Mae adroddiadau’n awgrymu bod chwaraewr canol cae Cymru, David Vaughan wedi ymddeol o’r byd pêl-droed rhyngwladol.

Roedd Vaughan, Cymro Cymraeg o Abergele, yn aelod o garfan Chris Coleman ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc, ond ni chafodd e gyfle i ddod i’r cae yn ystod y gystadleuaeth, wrth i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol.

Enillodd Vaughan 42 o gapiau yn ei yrfa ryngwladol, gan sgorio un gôl.

Mae lle i gredu mai ceisio ymestyn ei yrfa gyda Nottingham Forest sy’n rhannol gyfrifol am ei benderfyniad.

Bydd Chris Coleman yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm ragbrofol gyntaf yn erbyn Moldofa yn ddiweddarach fore Mercher.