Stadiwm Liberty'n dal i aros i weld Baston
Fydd ymosodwr newydd Abertawe, Borja Baston ddim ar gael ar gyfer eu gêm gartref gynta’ yn erbyn Hull ddydd Sadwrn.
Roedd disgwyl mawr i weld cyn-ymosodwr Atletico Madrid ar gae’r Liberty ar ôl iddo ymuno â’r Elyrch am £15.5 miliwn, sy’n record i’r clwb.
Fe gollodd y gêm yn Burnley ar ddiwrnod cynta’r tymor y penwythnos diwetha’ oherwydd ei fod e newydd gyrraedd Cymru a heb brofi ei ffitrwydd mewn da bryd.
Nawr mae Baston, 23, wedi anafu cyhyr yn ei goes, ond y gobaith yw y bydd yn holliach ar gyfer y gêm gwpan yn Peterborough nos Fawrth.
Dywedodd y rheolwr Francesco Guidolin mai “problem fach” sydd gan Baston.
Amheuon tros Britton
Mae amheuon hefyd a fydd y capten newydd, Leon Britton yn iach ar gyfer y gêm, gan ei fod e wedi bod yn sâl yr wythnos hon.
Byddai absenoldeb Britton yn golygu mai Jack Cork fyddai’r capten nos Fawrth.
Mae Guidolin eisoes wedi awgrymu mai Britton fydd capten newydd y tîm yn dilyn ymadawiad capten Cymru, Ashley Williams, i Everton.
Dywedodd Guidolin fod y chwilio am amddiffynnwr canol newydd yn parhau, a’i fod yn “optimistaidd” y bydd yn denu chwaraewr newydd i’r Liberty cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ar Awst 31.