Joe Allen
Buddugoliaeth hanesyddol a pherfformiad cofiadwy gan Gymru. Owain Schiavone sy’n bwrw golwg ar berfformiadau’r chwaraewyr unigol.
Am gem…am berfformiad…am ddiwrnod. Roedd yn achlysur arbennig iawn yn Bordeaux ddoe, ac roedd agwedd ac ysbryd Cymru – yn chwaraewyr a chefnogwyr – yn ddi-fai.
Roedd cwpl o sypreisys yn newis tim Chris Coleman, a theg dweud nad oedd yr un perfformiad gwael mewn crys coch yn Stade de Bordeaux. Trwy niwl yr emosiwn, dyma ymdreach ar ddadansoddiad cryno o berfformiad pob chwaraewr.
Danny Ward – newid hwyr a sylwedol i dim decheuol Cymru wedi anaf i Hennessey. Ni chafodd ormod i wneud, ond roedd yn ddigon cyfforddus a’i gicio / pasio’n dda. 6/10
Chris Gunter – gem gymharol dawel heb gymaint o gyfle i ymosod lawr y dde. Ymdrech 100% fel arfer. 6
Neil Taylor – fel Gunter, ddim mor amlwg ag arfer ond fe wnaeth ei waith yn effeithiol gan gynnig opsiwn ar yr asgell pan oedd angen lledu’r chwarae. 6
James Chester – 10 munud cyntaf braidd yn wyllt, ond fe setlodd wedi hynny gan ffurfio triawd digon cadarn yn y cefn gyda’i gapten a Ben Davies. 7
Ashley Williams – roedd y capten yn edrych braidd yn rhydlyd yn Sweden a doedd o dal ddim yn edrych ei orau yma, yn enwedig wrth i Hamsik werth dymi’n llawer rhy hawdd iddo wrth greu cyfle gorau Slofacia. Arwain ei dim yn arwrol fel arfer, ond anaf tuag at ddiwedd y gem yn ofid. 7
Ben Davies – ardderchog, ac agos iawn at fod yn seren y gem. Cliriad allweddol wedi rhediad Hamsik, cadarn yn y dacl a bob amser yn y lle iawn. Arbennig. 9
David Edwards – syndod ei weld yn dechrau cyn King, ond fe wnaeth ei job amddiffynol yn effeithiol cyn i Ledley ddod i’r cae yn ei le. 7
Joe Allen – ar ol Bale, chwaraewr pwysicaf Cymru erbyn hyn. Roedd chwaraewr canol cae Lerpwl ym mhobman yn torri chwarae’r gwrthwynebwyr ac yn gosod tempo chwarae Cymru. Seren y Gem. 9
Aaron Ramsey – ambell fflach ardderchog, ond ar y cyfan braidd yn siomedig gan ildio’r bel yn rhy rhwydd ar adegau a methu dau gyfle gwych – un gyda’i ben a’r llall o 8 llath wedi rhediad Bale. Angen peidio cymhlethu ei chwarae a dangos y ddawn sydd ganddo. 6
Jonathan Williams – dewis annisgwyl arall ond cyfiawnhau penderfyniad ei reolwr. Bygythiad cyson gyda’i redeg peryglus. 8
Gareth Bale – mewn safle anghyfarwydd yn arwain yr ymosod a ddim mor amlwg ag arfer o’r herwydd. Mwy o gyfle i ddangos ei ddoniau wedi’r eilyddio ac wrth i Slofacia chwilio am gol. 7
Eilyddion:
Joe Ledley – yn amlwg ddim yn ’match fit’ Ond gwaith da am 20 munud a phas wych i greu’r gol fuddugol. 7
Hal Robson-Kanu – fel arfer, rhedeg y sianeli’n dda ac niwsans i’r gwrthwynebwyr. Yn y lle iawn ar yr amser iawn ar gyfer ei gol. 6
Jazz Richards – eilydd hwyr i helpu gwarchod y flaenoriaeth, gwneud dim o’i le. 6