Gareth Bale Llun: UEFA
Mae Gareth Bale wedi mynnu nad yw Cymru’n “dîm un dyn” ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.

Sgoriodd ymosodwr Real Madrid  saith o 11 gôl Cymru yn rowndiau rhagbrofol y bencampwriaeth gan helpu Cymru i gyrraedd ei dwrnamaint mawr cyntaf am 58 mlynedd.

Ond mae chwaraewr drytaf y byd wedi wfftio honiadau mai tîm un dyn yw Cymru wrth iddo siarad mewn cynhadledd i’r wasg heddiw cyn gêm agoriadol Cymru yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn.

Meddai Gareth Bale: “Dyw hi byth yn dîm un dyn, i ni mae e i gyd am y sgwad.

“Ry’n ni’n gryfach gyda’n gilydd ac mae’r dywediad yno am reswm – ry’n ni’m yn dweud hynny am ddim rheswm.

“Ry’n ni gyd yn gweithio’n galed fel un uned – yn ymosod fel un ac yn amddiffyn fel un. Pan ry’n ni’n  colli’r bêl rydym i gyd yn ymladd i’w gael yn ôl.”

Ychwanegodd hefyd nad oedd pwysau’r disgwyliadau yn ei boeni a bod y garfan fel “brodyr” oherwydd eu bod mor agos.

Yng nghanolfan cyfryngau Cymru yn Dinard, Llydaw, bu Gareth Bale hefyd yn siarad, drwy gyswllt fideo, gyda Gwyn Morris, ei gyn-athro Addysg Gorfforol yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, a dau o ddisgyblion presennol ei hen ysgol yng Nghaerdydd.