Mae adroddiadau’n awgrymu bod Abertawe wedi gwneud ymholiadau i geisio denu Joe Allen yn ôl i Stadiwm Liberty.
Symudodd Allen o Abertawe i Lerpwl yn 2012, ond prin fu ei gyfleoedd yn y tîm cyntaf ers i Jurgen Klopp ddisodli Brendan Rodgers fel rheolwr.
Ond mae Lerpwl wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu gwerthu chwaraewr canol cae Cymru yn ystod y ffenestr drosglwyddo bresennol.
Sgoriodd Allen gôl fuddugol Lerpwl yn erbyn Arsenal yn yr Uwch Gynghrair yr wythnos diwethaf, ac mae’n cael ei ystyried yn rhan ganolog o gynlluniau’r rheolwr Jurgen Klopp am weddill y tymor.
Er hynny, saith o gemau’n unig mae’r Cymro wedi eu dechrau o dan Klopp.
Mae gan Allen flwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol yn Anfield, ond dydy e ddim wedi cael cynnig cytundeb newydd eto.