Abertawe 0–0 West Ham
Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Abertawe brynhawn Sul wrth i West Ham ymweld â’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd yn berfformiad da arall gan yr Elyrch o dan ofal dros dro Alan Curtis ond er iddynt lwyr reoli’r meddiant doedd dim gôl i fod.
Ki Sung-yueng ac Andre Ayew a ddaeth agosaf i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf ond aros yn ddi sgôr a wnaeth hi.
Daeth Jack Cork yn agos gyda foli gelfydd yn yr ail hanner ond gwnaeth Adrian arbediad da i’w atal.
Roedd yr Elyrch yn meddwl eu bod yn haeddu cic o’r smotyn hefyd am lawiad gan James Collins ond dyfarnodd Lee Mason mai taro gwyneb y Cymro a wnaeth y bêl.
Mae’r pwynt yn hwb i Abertawe heb os ond nid yw’n ddigon i’w codi o safleoedd y gwymp, wrth iddynt aros yn ddeunawfed yn nhabl yr Uwch Gymghrair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel (Naughton 69′), Fernandez, Williams, Taylor, Britton, Cork (Shelvey 73′), Ki Sung-yueng, Sigurdsson, Gomis, Ayew (Barrow 83′)
.
West Ham
Tîm: Adrián, Tomkins, Collins, Ogbonna, Cresswell, Song (Obiang 73′), Antonio (Jenkinson 85′), Kouyaté, Noble, Zárate (E Valencia 60′), Jelavic
Cerdyn Melyn: Jenkinson 87’
.
Torf: 20,661