Abertawe 0–1 Stoke
Colli fu hanes Abertawe nos Lun wrth i dîm Stoke Mark Hughes eu trechu o un gôl i ddim ar y Liberty.
Daeth unig gôl y gêm wedi dim ond pedwar munud pan rwydodd Bojan o’r smotyn.
Ychydig dros ddau funud oedd wedi mynd pan bwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn wedi i Bojan gael ei lorio gan Ashley Williams yn y cwrt cosbi.
Cododd cyn chwaraewr Barcelona ar ei draed i gymryd y gic gan guro Lukasz Fabianski o ddeuddeg llath.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ac ar wahân i ergyd isel Jonjo Shelvey a darodd y postyn, prin iawn oedd y cyfleoedd mewn ail hanner di sgôr hefyd.
Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair ac heb fuddugoliaeth mewn pum gêm gynghrair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Shelvey, Cork (Ki Sung-yueng 59′), Barrow (Sigurdsson 59′), Ayew (Éder 80′), Montero, Gomis
Cardiau Melyn: Williams 41’, Shelvey 57’
.
Stoke
Tîm: Butland, Johnson, Cameron, Wollscheid, Pieters, Adam (Van Ginkel 70′), Whelan, Shaqiri, Bojan (Ireland 79′), Arnautovic (Afellay 75′), Joselu
Gôl: Bojan [c.o.s.] 4’
Cardiau Melyn: Pieters 45’, Shakiri 66’
.
Torf: 20,044