Mae papur newydd y ‘Sun’ yn adrodd bod Man U yn paratoi i wneud cais gwerth £7 miliwn am ymosodwr Abertawe, Bafetimbi Gomis.

Mae gan Gomis gymal yn ei gytundeb sy’n ei alluogi i symud o’r Liberty am isafswm o £7 miliwn.

Mae un o sgowtiaid Man U, Jim Lawlor wedi bod yn dilyn hynt a helynt Gomis ers cryn amser, yn ôl adroddiadau.

Mae’r papur newydd hefyd yn dweud bod gan Aston Villa a Spurs ddiddordeb yn y chwaraewr.

Gallai Gomis fod yn opsiwn realistig i Man U pe baen nhw’n methu ag arwyddo Neymar o Barcelona.

Mae’r ffenestr drosglwyddo’n cau am 6 o’r gloch nos Fawrth.