Osian Roberts
Does gan dîm Cymru ddim pryderon ynglŷn â’r disgwyliadau uchel sydd arnyn nhw bellach i gyrraedd Ewro 2016 yn ôl eu his-reolwr, wythnos cyn dwy o’r gemau mwyaf yn eu hanes.
Mae’r tîm ar hyn o bryd ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 heb golli’r un o’u chwe gêm, a newydd drechu un o dimau gorau’r byd, Gwlad Belg.
Ac wrth i Gymru baratoi i wynebu Cyprus ac Israel mewn dwy gêm enfawr wythnos nesaf, mae’r cefnogwyr yn gwybod y byddai dwy fuddugoliaeth yn ddigon i sicrhau eu lle yn y twrnament yn Ffrainc.
Dyw’r disgwyliadau ddim wedi bod mor uchel â hyn ers ymgyrch ragbrofol aflwyddiannus Ewro 2004 o dan Mark Hughes.
Ond mae Osian Roberts, sydd bellach yn is-reolwr ar y tîm o dan Chris Coleman, yn hyderus fod y chwaraewyr yn barod ar gyfer yr her.
“Rydan ni’n croesawu’r disgwyliadau yna, croesawu’r pwysau ac yn croesawu’r sylw sydd yn cael ei roi i’r tîm, achos mae hwnna’n golygu ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn gywir,” meddai Osian Roberts wrth golwg360.
“Rydan ni eisiau hyn i barhau ac nid bod yn rhywbeth tymor byr, rydan ni eisiau i’r disgwyliadau yma fod y ‘norm’ i’r grŵp yma o chwaraewyr.”
Chwaraewyr wedi arfer
Gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Joe Allen ac Aaron Ramsey yn y garfan, sydd yn chwarae i rai o’r timau mwyaf yn y byd, mae gan y chwaraewyr ddigon o brofiad o sut i ddelio â sefyllfaoedd pwysau uchel.
Ac mae’n bwysig, meddai Osian Roberts, fod y meddylfryd hwnnw yn cael ei drosglwyddo i’r tîm cenedlaethol os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus.
“Mae gennym ni chwaraewyr sydd wedi arfer hefo disgwyliadau uchel ac rydan ni eisiau i hynny fod yn rhywbeth sydd yn dod yn naturiol iddyn nhw wrth chwarae i’w gwlad nhw,” esboniodd yr hyfforddwr.
“Rydan ni yn eisiau mwy o hyn yn y dyfodol, ond sicrhau ar yr un pryd ein bod ni’n gallu delio hefo hynny a bod ni’n cadw’n traed ar y ddaear, ac yn ymwybodol o beth sydd ‘di cael ni i lle rydan ni hyd yn hyn a bod ni’n parhau i adeiladu ar hynny.”
Er gwaethaf safle gwych Cymru yn y grŵp fodd bynnag, mynnodd yr is-reolwr na fydd y tîm yn cymryd eu lle yn Ffrainc yn ganiataol eto.
“Mae’n rhaid i ni gario ‘mlaen hefo’r gwaith yma ond yn sicr does ‘na neb yn y garfan yn meddwl bod ni ‘di gwneud digon eto, mae ‘na lot o waith o’n blaenau ni dal i’w wneud,” rhybuddiodd Osian Roberts.
Newid arddull?
Ar ôl dioddef dros 10 anaf i’r garfan cyn gêm ddiwethaf yn erbyn Cyprus yng Nghaerdydd, mae Cymru wedi cael tipyn gwell lwc y tro yma.
Mae Chris Coleman wedi cael ychydig o drafferthion yng nghanol cae gyda Joe Allen a David Vaughan yn absennol, yn ogystal â chwaraewyr fel Emyr Huws, Jonathan Williams a George Williams sydd heb fod yn chwarae’n ddiweddar.
Er bod y garfan yn gryfach y tro hwn nag yr oedd hi llynedd, mynnodd Osian Roberts na fyddai’r tîm hyfforddi yn addasu steil o chwarae’r tîm yn dibynnu ar bwy oedd ar gael.
“Na, mae’n ffordd ni o weithio a’n arddull a ffordd o chwarae yn aros yr un fath,” meddai is-reolwr Cymru.
“Mae gennyn ni athroniaeth o sut rydan ni eisiau mynd o gwmpas hi ond mae’n rhaid hefyd ffeindio ffordd o ennill y gêm.
“Mae o am fod yn gêm hefo digon o sialens o’i chwmpas hi ond mae’r chwaraewyr yma’n grediniol y gallwn ni wneud rhywbeth sbesial. Ond i ni wneud hynny mae’n rhaid i ni droi fyny, perfformio a defnyddio’r pwysau mewn ffordd bositif.”
Stori: Jamie Thomas