Gareth Bale
Mae disgwyl y bydd Gareth Bale yn cael ei enwi yng ngharfan Cymru i wynebu Cyprus ac Israel yr wythnos nesaf ar ôl cael sgan ar ei droed.

Roedd ymosodwr Cymru wedi cwyno am boen ym mys bawd ei droed ar ôl gêm Real Madrid yn erbyn Sporting Gijon dros y penwythnos.

Ond mae profion wedi dangos nad yw wedi torri unrhyw esgyrn, ac felly mae disgwyl iddo gael ei enwi pan fydd Chris Coleman yn cyhoeddi ei garfan fory.

Mae gan Gymru bedair gêm yn weddill o’u hymgyrch ragbrofol Ewro 2016, ond byddai buddugoliaethau yn eu dwy gêm nesaf yn erbyn Cyprus ac Israel yn sicrhau eu lle yn y twrnament doed a ddelo.

Amheuon dros Allen

Mae amheuon yn parhau fodd bynnag dros ffitrwydd Joe Allen, sydd wedi anafu cesail y forddwyd.

Mae chwaraewr canol cae Lerpwl wedi’i wahardd beth bynnag ar gyfer y trip i Gyprus ar 3 Medi, ond mae ganddo siawns o hyd o fod yn holliach ar gyfer yr ornest yn erbyn Israel tridiau yn ddiweddarach.

Dyw hi ddim yn edrych yn debygol y bydd Jonny Williams, George Williams nac Emyr Huws yn y garfan chwaith, gan nad ydyn nhw wedi chwarae i’w clybiau eto’r tymor yma ers dod dros anafiadau.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig eu grŵp rhagbrofol gydag 14 pwynt, tri o flaen Gwlad Belg, pump o flaen Israel a Cyprus a chwech o flaen Bosnia.

Ar ôl y ddwy gêm ym mis Medi fe fydd Cymru’n herio Bosnia ac Andorra ym mis Hydref i gwblhau’r ymgyrch ragbrofol.