Mae Wrecsam wedi cadarnhau bod eu prif sgoriwr tymor diwethaf, Louis Moult, wedi ymuno â Motherwell yn Uwch Gynghrair yr Alban.

Fe sgoriodd Moult 16 o goliau mewn 39 gêm ar ôl iddo gael ei arwyddo o Nuneaton yn haf 2014 gan y rheolwr newydd ar y pryd, Kevin Wilkin.

Bellach mae Wilkin wedi gadael a Gary Mills sydd wrth y llyw, ac mae’r rheolwr presennol eisoes yn edrych i arwyddo ymosodwr newydd i gymryd lle Moult, sydd yn 23 oed.

Roedd Moult yn un o ddau chwaraewr yn unig lwyddodd i rwydo mwy na deg gôl i Wrecsam y tymor diwethaf, wrth i’r tîm orffen yn 11eg yn y Gyngres a cholli yn ffeinal Tlws FA Lloegr.

Dyw Wrecsam na Motherwell wedi cadarnhau’r ffi a dalwyd am yr ymosodwr, oedd â blwyddyn ar ôl ar ei gytundeb yn y Cae Ras, ond fe ddywedodd y Dreigiau bod y clwb o’r Alban wedi “gwella eu cynnig”.

Dechreuodd Louis Moult ei yrfa yn Stoke ac fe dreuliodd sawl cyfnod ar fenthyg i wahanol glybiau cyn symud i Northampton ac yna Nuneaton.