Fe fydd Jazz Richards yn cynnal trafodaethau gydag Abertawe a chlybiau eraill heddiw er mwyn ceisio datrys ei ddyfodol ar gyfer y tymor nesaf.
Dim ond blwyddyn sydd ar ôl ar gytundeb yr amddiffynnwr yn Stadiwm Liberty, ac mae Fulham o’r Bencampwriaeth eisoes wedi gwneud cynnig o £500,000 amdano.
Ond ar ôl perfformiad cryf gan Richards dros Gymru yn eu buddugoliaeth ddiweddar dros Wlad Belg mae clybiau eraill o’r Uwch Gynghrair nawr wedi dechrau dangos diddordeb.
Gemau cyson
Fe chwaraeodd Jazz Richards 14 gwaith dros Fulham tymor diwethaf pan aeth yno ar fenthyg, ac fe fyddai symud yno yn barhaol yn debygol o olygu mwy o bêl-droed cyson iddo.
Mae gan Abertawe eisoes Kyle Naughton ac Angel Rangel yn cystadlu am safle’r cefnwr dde ac felly mae’n debygol y byddai’n rhaid i Richards, sydd bellach yn 24 oed, adael os yw e am chwarae’n fwy rheolaidd.
Yn ôl adroddiadau mae clybiau o’r Uwch Gynghrair gan gynnwys Norwich ac Aston Villa yn ogystal â QPR a Derby o’r Bencampwriaeth wedi bod yn cadw llygad arno.
A chyda’r posibilrwydd y gallai fod yn rhan o garfan Cymru fyddai’n teithio i Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, mae’r amddiffynnwr yn gobeithio am glwb ble bydd modd iddo wneud argraff.