Mae Abertawe yn agosáu at arwyddo’r amddiffynnwr Kyle Naughton wedi iddyn nhw a Spurs ddod i gytundeb ar ffi o tua £5m.

Fe fydd Naughton, sydd yn gallu chwarae fel cefnwr dde neu chwith, nawr yn trafod telerau personol gyda’r Elyrch, yn ôl y Daily Mirror.

Mae’r chwaraewr 26 oed wedi bod yn White Hart Lane ers chwe blynedd, ond yn ddiweddar mae e wedi colli ei le yn y tîm.
Mae Abertawe hefyd yn parhau i drafod â Norwich ynglŷn â cheisio arwyddo’r cefnwr Martin Olsson, ac fe allai Neil Taylor adael Stadiwm y Liberty cyn diwedd y mis hefyd ar ôl i Crystal Palace wneud cynnig.

Fodd bynnag, mae rheolwr Abertawe Garry Monk yn awyddus i gadw’r ymosodwr Bafetimbi Gomis er bod Gomis wedi awgrymu ei fod yn ystyried ei opsiynau.

Y Ffrancwr yw’r dewis cyntaf yn yr ymosod bellach ar ôl i’r clwb werthu Wilfried Bony i Man City am £28m, ond mae Gomis wedi bod yn anhapus ei fod e heb chwarae digon aml cyn hyn.