Karim Benzema, ymosodwr Ffrainc
Dechreuodd Ffrainc eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd mewn steil gyda buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn tîm Honduras aeth allan i geisio sbwylio’r hwyl o’r cychwyn.

Yr Ewropeaid gafodd y gorau o’r hanner cyntaf o ran cyfleoedd ond fe’u cadwyd allan gan gyfuniad o amddiffyn caled a gwaith da gan y gôl geidwad.

Roedd Honduras hefyd yn benderfynol o darfu ar rythm Ffrainc gyda chwarae budr ar adegau, gyda Paul Pogba a Wilson Palacios yn lwcus i gael dim ond cardiau melyn am gicio’i gilydd.

Ond toc cyn yr egwyl roedd Ffrainc ar y blaen, ar ôl i Palacios ildio cic o’r smotyn a gweld cerdyn coch am wthio Pogba yn y cwrt cosbi, a Karim Benzema yn rhwydo.

Roedd yr ail hanner yn llawer mwy cyfforddus i Ffrainc, a ddyblodd eu mantais wedi i ergyd Benzema daro’r postyn, wedyn y gôl geidwad, a chropian dros y llinell – a’r dechnoleg yn dyfarnu ei bod yn gôl.

Ac ar ôl i Honduras fethu â chlirio’r bêl yn iawn o gic gornel fe ddisgynnodd y bêl i Benzema a darodd fwled o ergyd i do’r rhwyd am drydedd Ffrainc.

Gôl hwyr i’r Swistir

Yng ngêm arall Grŵp E fe ymunodd y Swistir â Ffrainc ar y brig wedi iddynt hwythau gipio buddugoliaeth, yn erbyn Ecwador o 2-1.

Er iddyn nhw ddechrau’n dda roedd y Swistir ar ei hôl hi hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, ar ôl i Enner Valencia godi’n uwch na phawb i benio Ecwador ar y blaen.

Ond yn yr ail hanner fe unionwyd y sgôr gan Admir Mehmedi wedi i’r eilydd benio gôl debyg iawn i’r Swistir toc wedi’r egwyl.

Ac yn y munud olaf fe fethodd Ecwador gyfle euraidd i’w chipio hi, gyda’r Swistir yn dianc â’r bêl, Ricardo Rodriguez yn croesi o’r chwith a Haris Seferovic yn waldio’r bêl i gefn y rhwyd am y fuddugoliaeth.

Moment hudolus gan Messi

Yn y gêm hwyr yng Ngrŵp F llwyddodd yr Ariannin i sicrhau buddugoliaeth hefyd o 2-1 yn erbyn Bosnia-Herzegovina, ond roedd rhaid iddyn nhw weithio’n galed amdani.

Roedd yr Archentwyr ar y blaen ar ôl dim ond dwy funud, ar ôl i gic rydd wyro oddi ar amddiffynnwr Bosnia Sead Kolasinac i mewn i’w rwyd ei hun.

Yn eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd ni wnaeth Bosnia adael i hynny effeithio arnyn nhw, gan roi pwysau ar yr Ariannin yn yr hanner cyntaf a chreu cyfleoedd eu hunain.

Ond ar ôl ychydig dros awr o chwarae cafodd Lionel Messi – oedd wedi cael gêm dawel nes hynny – y bêl ar yr ochr dde, dawnsio heibio i bedwar amddiffynnwr a tharo ergyd hyfryd i gornel y rhwyd am yr ail gôl.

Doedd Bosnia heb orffen hyd yn oed ar ôl hynny, gyda’r eilydd Vedad Ibisevic yn llithro’r bel drwy goesau’r golwr i fachu un yn ôl pum munud o’r diwedd, ond buddugoliaeth i’r ffefrynnau oedd hi yn y diwedd.

Gemau heddiw

Portiwgal v Yr Almaen (5.00yp)

Iran v Nigeria (8.00yh)

Ghana v UDA (11.00yh)

Pigion eraill

Ni chafwyd dechrau da i’r gêm rhwng Ffrainc a Honduras wrth i’r timau ddod allan, sefyll mewn rhes ac yna’n sydyn reit troi at ei gilydd, ysgwyd dwylo a pharatoi i ddechrau’r gêm – heb ganu’r anthemau!

Mae’n ymddangos mai problem dechnegol yn ymwneud â’r system sain oedd yn gyfrifol, ond doedd hynny’n fawr o gysur i’r cefnogwyr oedd wedi gobeithio clywed y Marseilles (ac anthem Honduras) yn cael ei bloeddio.

Roedd y dechnoleg yn gweithio’n iawn yn nes ymlaen yn y gêm fodd bynnag, wrth i’r system ar linell y gôl ddyfarnu bod ergyd Benzema wedi croesi’r llinell.

Ond mae’n ymddangos mai sylwebydd y BBC Jonathan Pearce oedd yr unig un nad oedd wedi deall y sefyllfa, gan fynnu nad oedd hi’n gôl oherwydd nad oedd y bêl wedi croesi’r llinell yn gynt, ac awgrymu mai hon oedd moment mwyaf dadleuol Cwpan y Byd hyd yn hyn. Byddai Mecsico a Croatia’n siŵr o anghytuno.

Sôn am Groatia, mae’n ymddangos fod eu chwaraewyr nhw nawr yn gwrthod siarad â’r wasg o gwbl – a hynny ar ôl i luniau noeth ohonyn nhw ymddangos ar-lein.

Yn ôl eu hyfforddwr Niko Kovac roedd dau ffotograffydd wedi cuddio yn y gwrych wrth eu gwesty er mwyn tynnu’r lluniau, gyda’r amddiffynnwr Dejan Lovren a Vedran Corluka’n amlwg yn rhai o’r lluniau.

“Dw i ddim yn gwybod a fydd y distawrwydd yn gorffen fory neu’n para nes diwedd ein hymgyrch Cwpan y Byd,” meddai Kovac.

Ac mae ymgyrch Cwpan y Byd eisoes drosodd i un aelod o staff – Gary Lewin, un o physios tîm Lloegr.

Datgymalodd Lewin ei ffêr wrth faglu dros botel tra’n dathlu gôl Lloegr yn erbyn yr Eidal, ac mae nawr yn teithio adref i wella.