Malky Mackay
Mae’r dyfalu’n parhau ynglŷn â phwy fydd yn olynu Malky Mackay fel rheolwr Caerdydd ar ôl iddo gael ei ddiswyddo ddydd Gwener.
Mae’r clwb yn obeithiol y gall benodi Ole Gunnar Solskjaer fel rheolwr newydd er gwaetha adroddiadau ei fod wedi gwrthod cynnig y clwb.
Mae Solskjaer, sy’n gyfrifol am glwb Molde yn Norwy, yn ffefryn i olynu Malky Mackay a gafodd ei ddiswyddo yn dilyn ffrae gyda’r perchennog Vincent Tan.
Dywedodd Cadeirydd y clwb Mehmet Dalman mai un person sydd ganddo dan sylw ar gyfer y swydd ond mae wedi gwrthod cadarnhau a yw wedi cynnal trafodaethau gyda Solskjaer.
Cynorthwyydd Mackay, David Kerslake a’r hyfforddwr Joe McBride sydd wedi cymryd yr awenau wrth i’r Adar Gleision baratoi i wynebu Arsenal ar Ddydd Calan.
Mae Kerslake wedi mynnu nad yw’n gwybod dim am benodiad Solskjaer ond mae wedi galw ar gefnogwyr y clwb i gefnogi’r rheolwr newydd.