Y Seintiau Newydd 2–0 Bangor

Y Seintiau aeth â hi yng ngêm fyw Sgorio rhwng Y Seintiau Newydd a Bangor ar Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.

O’i chymharu â rhai o’r gemau rhwng y ddau dîm yma yn y gorffennol, roedd hon yn bell o fod yn glasur, ond roedd dwy gôl mewn dau funud yn yr hanner cyntaf gan Mike Wilde ac Aeron Edwards yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r pencampwyr.

Cafodd Aeron Edwards gyfle da i roi’r Seintiau ar y blaen yn y munud cyntaf yn dilyn cic wael Lee Idzi ond cafodd y gôl-geidwad ddihangfa wrth i Edwards saethu dros y trawst.

Daeth y gôl agoriadol ychydig dros chwarter awr yn ddiweddarach serch hynny pan beniodd Wilde heibio i Idzi yn dilyn croesiad crefftus Ryan Fraughan gydag ochr allan ei droed chwith.

Dyblwyd y fantais funud yn ddiweddarach pan rwydodd Edwards. Rheolodd y bêl ar gornel y cwrt cosbi cyn troi a tharo hanner foli dda i’r gornel uchaf er i Idzi gael blaenau’i fysedd arni. Dwy i ddim wedi ugain munud a mynydd i’w ddringo i Fangor.

Fe wnaeth y Dinasyddion wella wedi hynny ond heb greu llawer o flaen gôl. Cic rydd Sion Edwards o bellter dri munud cyn yr egwyl oedd eu cyfle gorau yn yr hanner cyntaf ond arbedodd Paul Harrison honno yn isel i’w chwith.

Cafwyd cyfnod digon diflas wedi’r egwyl cyn i’r Seintiau orffen y gêm yn gryf. Yn wir, dylai’r tîm cartref fod wedi ychwanegu at eu cyfanswm yn yr ugain munud olaf ond bu Edwards a’r eilydd, Alex Darlington, yn wastraffus mewn sefyllfaoedd un ar un yn erbyn Idzi.

Tarodd Darlington y postyn hefyd yn y munudau olaf ond roedd ei dîm wedi gwneud hen ddigon.

Mae’r canlyniad yn codi’r Seintiau i’r trydydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair ac yn cadw Bangor yn yr hanner gwaelod, yn y seithfed safle.

Ymateb

Craig Harrison, cyfarwyddwr pêl droed y Seintiau Newydd

“Mae gan Fangor chwaraewyr ifanc, brwdfrydig sydd eisiau chwarae dros y tîm. Mae nhw’n dîm mawr yn y gynghrair hon ac roeddem yn gwybod eu bod yn mynd i fynd amdani heddiw.”

“Mae timau yn dod yma ac yn gwneud beth sy’n rhaid iddynt. Y sialens i ni yw torri trwy’r amddiffyn ac fe wnaethom ni heddiw ac fe allem ni fod wedi sgorio pump neu chwech.”

Seren y gêm a sgoriwr ail gôl y Seintiau Newydd, Aeron Edwards:

“Dwi’m yn cael lot ond mae’n neis sgorio. Fe wnaethom ni chwarae’n eitha’ da heddiw i gael y canlyniad.”

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Baker, K. Edwards, Marriott, Finley (Mullan 69’), A. Edwards, Fraughan (Darlington 69’), Seargeant, Jones, Wilde

Goliau: Wilde 17’, A. Edwards 19’

.

Bangor

Tîm: Idzi, Walker, Johnston, Miley, Roberts, R. Edwards, C. Jones (Littlemore 73’), R. Jones (Hughes 86’), Petrie, S. Edwards (Culshaw 78’), Davies

Cardiau Melyn: R. Jones 52’, Walker 89’

.

Torf: 482