Mae’r ymosodwr o’r Iseldiroedd, Wilfried Bony wedi derbyn trwydded waith er mwyn cwblhau ei drosglwyddiad i Abertawe.

Cafodd ei arwyddo o Vitesse Arnhem ddechrau’r mis am ffi o £12 miliwn, sy’n record i’r clwb.

Gallai’r ffi godi i £13.5 miliwn yn ddibynnol ar sawl cymal yn ei gytundeb.

Mae’n curo’r record blaenorol, sef £5.5 miliwn am Pablo Hernandez o Valencia.

Bydd Bony yn bartner i Michu yn y rheng flaen, ac yn cynnig opsiynau ymosod ychwanegol i’r rheolwr Michael Laudrup.

Bydd Abertawe’n herio Hibernian neu Malmo yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa y tymor hwn, yn dilyn eu buddugoliaeth yng Nghwpan Capital One y tymor diwethaf.