Tate yn mynd i Yeovil
Mae amddiffynnwr canol Abertawe, Alan Tate wedi ymuno â chlwb Yeovil tan fis Ionawr.

Prin fu cyfleoedd Tate i chwarae i’r Elyrch o dan reolaeth Michael Laudrup.

Treuliodd gyfnod ar fenthyg gyda Leeds y tymor diwethaf.

Cafodd wybod cyn taith y clwb i’r Iseldiroedd ar ddechrau’r mis fod rhwydd hynt iddo chwilio am glwb newydd yn barhaol.

Mae disgwyl iddo chwarae yng ngêm gyfeillgar Yeovil yn erbyn Caerwysg heno.

Bydd Yeovil yn cystadlu yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf, yn dilyn dyrchafiad ddiwedd y tymor diwethaf.

Mae Alan Tate wedi cynrychioli Abertawe ym mhob adran o’r Gynghrair Bêl-droed.