Mae Clwb Criced Bae Colwyn wedi cyhoeddi mai chwaraewr rhyngwladol o Bangladesh fydd eu chwaraewr tramor y tymor nesaf.

Daeth cadarnhad ddoe eu bod nhw wedi denu Sohrawordi Shuvo, troellwr llaw chwith, i’r clwb.

Mae e wedi chwarae mewn un gêm brawf, gan gipio pedair wiced, ac mae e wedi cipio 14 wiced mewn 17 gêm undydd.

Mae e wedi chwarae i dîm dan 19 ei wlad, yn ogystal â’r tîm ‘A’.

“Mae’r clwb yn hapus i gyhoeddi i ni arwyddo ein chwaraewr tramor cyntaf erioed o Bangladesh,” meddai’r clwb ar Twitter.

“Edrychwn ymlaen at groesawu Shuvo i’r clwb ac rydym yn ddiolchgar iawn i Rob @AceAshwell [asiant] am ei waith.”