Gary Kirsten yw prif hyfforddwr tîm criced dinesig newydd Caerdydd ar gyfer y gystadleuaeth Can Pelen (The Hundred) y tymor nesaf.
Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg, fydd yn arwain tîm merched y ddinas yn dilyn ei lwyddiant gyda thîm merched Awstralia yng Nghyfres y Lludw yn ddiweddar.
Bydd y gystadleuaeth, a fydd yn cael ei chynnal bob tymor am bum mlynedd, yn cael ei chynnal am y tro cyntaf fis Gorffennaf nesaf, a Chaerdydd yn un o’r wyth dinas sy’n cael eu cynrychioli – ynghyd â Llundain (dau dîm), Manceinion, Leeds, Birmingham, Nottingham a Southampton.
Bydd yn cael ei darlledu gan SKY Sports, ac yn rhad ac am ddim gan y BBC mewn ymgais i ddenu cynulleidfa newydd i griced.
Gary Kirsten
Gary Kirsten, 51, oedd prif hyfforddwr tîm India pan enillon nhw Gwpan y Byd 50 pelawd ar eu tomen eu hunain yn 2011.
Ac mae’r cyn-fatiwr agoriadol llaw chwith wedi arwain India a De Affrica i frig rhestr detholion y byd ar gyfer gemau prawf.
Mae e hefyd wedi hyfforddi yn yr IPL (Indian Premier League) a’r Big Bash League yn Awstralia.
“Mae cael bod yn rhan o’r byd criced yng Nghymru a Lloegr o safbwynt hyfforddi yn rhywbeth dw i erioed wedi’i wneud o’r blaen,” meddai Gary Kirsten.
“Mae’n wych cael y cyfle i ddod i Gaerdydd.
“Mae’r fformat hwn yn un newydd a dw i’n sicr y bydd yn parhau i dyfu. Y fuddugoliaeth fwyaf yw y bydd yn dal sylw teuluoedd ac yn agor criced fel camp i gynifer o amgylchfydoedd a chymunedau â phosib.”
Matthew Mott
Mae Matthew Mott yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl tri thymor wrth y llyw gyda Morgannwg.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe arweiniodd e’r sir i rownd derfynol Cwpan Pro 40 Yorkshire Bank yn 2013, wrth golli yn erbyn Swydd Nottingham.
Ac yntau’n brif hyfforddwr ar dîm merched Awstralia ers 2015, mae’n disgwyl i’r gystadleuaeth fod yn drobwynt i gêm y merched.
“Does gen i ddim amheuaeth. Mae Big Bash League y merched yn weladwy iawn yn nhermau rhoi ein chwaraewyr ni gerbron llygaid y cyhoedd gymaint yn fwy,” meddai.
“Mae wedi dangos mor bell mae’r gêm wedi dod.”
Ac mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gaerdydd, a’i fab wedi dysgu Cymraeg yn y ddinas.
“Mae Caerdydd yn lle arbennig i fi, a hynny’n rhan fawr o ddychwelyd yma.
“O safbwynt y teulu, bues i’n byw yn agos i Erddi Sophia ac ro’n i’n arfer gallu cerdded i’r gwaith drwy’r strydoedd hyfryd. Mae bwrlwm arbennig yno.
“All fy mab ddim aros i weld ei hen ffrindiau… Cafodd e amser gwych yng Nghaerdydd, ac fe wnaeth e ddysgu’r iaith – ond dw i’n credu ei fod e wedi ei hanghofio hi erbyn hyn – ond mae yma atgofion melys iawn i’r teulu.”
Ymateb i’r penodiadau
“Rydym wrth ein bodd o gael sicrhau gwasanaeth Gary a Matthew fel ein prif hyfforddwyr, ac yn credu mai nhw yw’r pâr perffaith i arwain ein timau newydd,” meddai Hugh Morris, prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg.
“Roedd y penderfyniad i’w penodi’n unfrydol ymhlith Bwrdd y tîm, a nhw oedd yn sefyll allan fel ymgeiswyr ar gyfer y swyddi o ran eu hanes ar lefel ucha’r gêm a’u profiad helaeth o gydweithio â sêr rhyngwladol ac mewn cystadlaethau T20 o amgylch y byd.”
Bydd y broses o brynu chwaraewyr i’r timau yn cael ei chynnal ar ddydd Sul, Hydref 20 a’i darlledu gan Sky Sports.
Yr hyfforddwyr eraill sydd wedi’u cadarnhau yw Simon Katich (Manceinion), Andrew McDonald (Birmingham) a Shane Warne a Lisa Keightley (Llundain).