Mae Surrey wedi curo Morgannwg o saith wiced mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.
Tarodd Mark Stoneman 53 oddi ar 49 o belenni, a sgoriodd Will Jacks 32 wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 82 am yr ail wiced, a Surrey yn cwrso nod o 153 yn gyfforddus.
Cipiodd Ruaidhri Smith dair wiced am 21 yn ei gêm gynta’r tymor hwn, ond doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth ugain pelawd gyntaf Morgannwg, sy’n aros ar waelod y tabl.
Dim ond y capten Colin Ingram (41) a Graham Wagg (36) oedd wedi cyfrannu gyda’r bat i Forgannwg, wrth i Tom Curran ac Imran Tahir gipio dwy wiced yr un.
Morgannwg yn batio
Ar ôl gwahodd Morgannwg i fatio, fe ddaeth cyfle cynnar i gipio wiced, ond cafodd David Lloyd ei ollwng ar 15, cyn cael ei fowlio gan Joe Clark yn fuan wedyn.
Yn ei gêm gyntaf ers dychwelyd i’r sir, tair pelen yn unig barodd Shaun Marsh, wrth iddo gael ei ddal gan y troellwr coes Imran Tahir oddi ar ei fowlio’i hun heb sgorio.
Ac fe ddaeth trydedd wiced i Surrey yn y cyfnod clatsio, wrth i Fakhar Zaman, tramorwr arall Morgannwg, gynnig daliad syml yn y gyli i Imran Tahir oddi ar fowlio Tom Curran.
Roedd yr ysgrifen ar y mur i Forgannwg erbyn diwedd y cyfnod clatsio, wrth iddyn nhw gyrraedd dim ond 34 am dair yn eu chwe phelawd cyntaf.
Cafodd Chris Cooke ei ollwng yn fuan wedyn, wrth i’r sir Gymreig lwyddo i gyrraedd 60 am dair erbyn hanner ffordd drwy’r batiad.
Ond aeth y wicedwr yn fuan wedyn, wedi’i ddal ar y ffin gan Joe Clark wrth dynnu pelen fer gan y troellwr Gareth Batty, a’r sgôr erbyn hynny’n 61 am bedair.
Cafodd y capten Colin Ingram ei ollwng ar 36, ond cafodd ei stympio ar 41 gan Ben Foakes oddi ar fowlio Imran Tahir, a’r sgôr yn 97 am bump.
Morgannwg yn taro’n ôl
Roedden nhw’n 123 am chwech pan gafodd Dan Douthwaite ei fowlio gan belen lawn gan Tom Curran am 24.
Ond roedd Graham Wagg y pen arall i’r llain, ac wrth orffen yn ddi-guro ar 36, gan gynnwys tri chwech, fe lwyddodd e, Dan Douthwaite a Ruaidhri Smith i ychwanegu 55 o rediadau yn ystod pum pelawd ola’r batiad i sicrhau sgôr parchus o 152 am chwech.
Wrth gwrso 153 i sicrhau’r fuddugoliaeth, dechreuodd Surrey yn wael, wrth i Ruaidhri Smith, ar ei ben-blwydd, gipio wiced yr Awstraliad peryglus Aaron Finch, a hwnnw’n rhoi daliad i’r wicedwr Chris Cooke, a’r sgôr yn bump am un ar ddiwedd y belawd gyntaf.
Erbyn diwedd y cyfnod clatsio, roedd yr ymwelwyr yn 43 am un, a Mark Stoneman a Will Jacks wedi hen ymgartrefu wrth y llain erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, wrth i Surrey gyrraedd 70 am un.
Ond wrth i Ruaidhri Smith ddychwelyd i fowlio, fe gyfunodd e eto â Chris Cooke, a hwnnw’n cipio daliad i waredu’r batiwr am 32, a’r sgôr yn 87 am ddwy yn y drydedd belawd ar ddeg.
Wiced – ond yn rhy hwyr
Aeth Mark Stoneman yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 44 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar, cyn i Ollie Pope gael ei ollwng gan David Lloyd oddi ar fowlio Fakhar Zaman.
Ond belawd yn ddiweddarach, cafodd Mark Stoneman ei ddal gan Marchant de Lange am 53, wrth ergydio’n syth ar ochr y goes oddi ar fowlio Ruaidhri Smith, a gipiodd ei drydedd wiced, a’r sgôr yn 102 am dair.
19 oedd eu hangen ar Ben Foakes ac Ollie Pope oddi ar y ddwy belawd olaf ac fe ildiodd Marchant de Lange 21 wrth i Surrey ennill gyda phelawd yn weddill.