Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi bod pedwar o Gymry ifainc wedi ymestyn eu cytundebau gyda’r sir.
Mae’r batwyr Connor Brown a Jack Murphy, a’r troellwyr Kieran Bull ac Owen Morgan i gyd wedi dod drwy rengoedd y sir.
Mae Connor Brown, Jack Murphy a Kieran Bull wedi cael estyniad o ddwy flynedd, tra bod y Cymro Cymraeg Owen Morgan wedi cael blwyddyn ychwanegol.
Er bod y batwyr wedi cael tymor siomedig ar y cyfan, mae Connor Brown a Jack Murphy wedi torri drwodd i’r tîm cyntaf y tymor hwn, y naill wedi taro 98 yn erbyn Essex yn y gystadleuaeth 50 pelawd, a’r llall wedi sgorio dros 500 o rediadau yn y Bencampwriaeth.
Mae’r troellwr Kieran Bull wedi disodli Andrew Salter yn y tîm cyntaf yn y Bencampwriaeth yn ystod ail hanner y tymor, ac fe greodd e argraff drwy gipio tair wiced yn yr ornest oddi cartref yn Swydd Derby yn ddiweddar.
Fe wnaeth Owen Morgan dorri drwodd yn 2016, gan ddod y noswyliwr cyntaf i daro canred i Forgannwg, ond prin fu ei gyfleoedd yn y tîm cyntaf y tymor hwn.
Ymateb Hugh Morris
Ddiwrnod yn unig ar ôl cyhoeddi adolygiad o berfformiadau’r sir y tymor hwn ac ategu ei farn mai datblygu chwaraewyr ifainc o Gymru yw’r ffordd ymlaen, mae Hugh Morris wedi llongyfarch y pedwar ar dderbyn cytundebau newydd.
“Rwy wrth fy modd fod Jack, Connor, Kieran ac Owen wedi llofnodi cytundebau newydd ac wedi ymrwymo i’r clwb yn y dyfodol,” meddai’r prif weithredwr.
“Mae’n rhan o’n strategaeth i feithrin chwaraewyr ifainc lleol a dod â nhw drwodd i’r tîm cyntaf, ac mae’r pedwar wedi dod drwy ein llwybrau ac wedi dangos addewid wrth berfformio i Forgannwg yn ystod eu gyrfaoedd byrion.
“Mae Jack yn datblygu ei gêm ar frig restr fatio Morgannwg yn ei dymor llawn cyntaf gyda’r tîm cyntaf ac fe ddangosodd Connor ei dalent yn erbyn tîm cryf Eryr Essex.
“Roedd rhaid i Kieran aros yn hir am ei gyfle ond mae e wedi bachu arno, gan greu argraff sawl gwaith, ac mae Owen wedi dangos ei botensial yn y gorffennol gyda batiad gwych i ennill gêm.
“Gyda’r chwaraewyr hyn yn dod drwodd i’r tîm cyntaf, yn ogystal â Kiran Carlson a David Lloyd, rydym yn ceisio adeiladu ar gyfer y dyfodol a datblygu tîm y gall Cymru fod yn falch ohono.”