Mae mwy na 150 o ferched wedi bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth bêl-feddal gyntaf erioed i’w chynnal yng Nghaerdydd.
Dyma’r ail flwyddyn i’r gystadleuaeth gael ei threfnu gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, ond y tro cyntaf iddi ymweld â Chymru.
Y gobaith yw y bydd yn annog mwy o ferched o bob oedran i gymryd rhan mewn criced.
Dywedodd Rheolwr Cymuned a Datblygu Clwb Criced Morgannwg, Mark Frost, “Bu’n bleser gweld sut mae pêl-feddal wedi datblygu yng Nghymru, a dw i wir yn golygu Cymru oherwydd bydd timau o bob cwr yma ar gyfer y digwyddiad ddydd Sul.
“Mae mwy na 1,000 o bobol wedi mwynhau’r math yma o griced, ac mae pob un sy’n cymryd rhan yn fodel rôl ar gyfer merched wrth iddyn nhw weld yr hwyl fawr sydd i’w chael o gymryd rhan mewn chwaraeon.
“Dw i’n falch fod Clwb Criced Morgannwg yn cynnal y digwyddiad hwn a bydd cael bywiogrwydd y merched ar y cae yng Ngerddi Sophia yn hysbyseb gwych ar gyfer twf parhaus criced merched.”