Mae gêm arall yn dechrau llithro o afael Morgannwg ar ddechrau trydydd diwrnod yr ornest yn erbyn Sir Gaerloyw yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.
Mae’r ymwelwyr yn 284 am chwech – mantais batiad cyntaf hyd yn hyn o 147 gyda phedair wiced wrth gefn.
Mae Jack Taylor heb fod allan ar 98, a Ben Charlesworth, disgybl ysgol 17 oed, wedi sgorio 65 hyd yn hyn yn ei bedwaredd gêm i’r sir, ac yntau wedi cael caniatâd gan ei ysgol yn Rhydychen i chwarae yn y gêm.
Blaenoriaeth o 24 yn unig oedd gan yr ymwelwyr pan ddaeth Jack Taylor a Ben Charlesworth ynghyd, ond fe adeiladon nhw bartneriaeth ddi-guro o 143 am y seithfed wiced i roi’r Saeson mewn sefyllfa gref.
Mae’r bartneriaeth ddau rediad yn brin o’r bartneriaeth seithfed wiced orau erioed i Swydd Gaerloyw – record Alf Dipper ac Albert Waters ar gae Cheltenham 95 o flynyddoedd yn ôl.
Diwrnod rhwystredig
Diwrnod digon rhwystredig gafodd Morgannwg ar ôl i’r sesiwn gyntaf gael ei cholli yn ei chyfanrwydd oherwydd y glaw.
Daeth y chwaraewyr allan yn y pen draw am 1.25 a chollodd y Saeson eu chweched wiced – wiced gynta’r dydd – wrth i Ryan Higgins gael ei fowlio oddi ar ymyl ei fat gan gapten Morgannwg, Michael Hogan am 18.
Dyna pryd y daeth Ben Charlesworth, y batiwr llaw chwith, i’r llain i gwblhau wythnos lwyddiannus ar ôl taro 77 di-guro yn erbyn Middlesex yn ei gêm ddiwethaf.
Roedd y nerfau’n amlwg ar y dechrau wrth iddo ddarganfod y ffin dair gwaith oddi ar ymyl ei fat ond unwaith iddo ymgartrefu ar y llain, chwaraeodd e’n hyderus ar yr ochr agored. Cafodd e gefnogaeth dda gan Jack Taylor, a darodd hanner canred oddi ar 128 o belenni.
Daeth un cyfle cynnar i gipio wiced Ben Charlesworth, ond fe gafodd ei ollwng yn sgwâr ar yr ochr agored gan Connor Brown oddi ar fowlio Michael Hogan, ac fe aeth yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 104 o belenni ar ôl taro naw pedwar.
Perfformiad digon cyffredin a gafwyd gan fowlwyr Morgannwg, oedd heb eu chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith am gyfnod helaeth o’r prynhawn ar ôl iddo anafu ei ochr.
Bydd yn rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau a chipio wicedi cynnar ar y trydydd diwrnod i roi cyfle i fatwyr Morgannwg orfodi’r Saeson i fatio eto er mwyn osgoi colli o fatiad a mwy.