Mae Clwb Criced Morgannwg yn “ffodus” o fod wedi arwyddo batiwr rhyngwladol Awstralia, Joe Burns am weddill cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, yn ôl y Prif Weithredwr, Hugh Morris.
Mae e wedi ymuno â’r sir ar ôl i’w gydwladwr Shaun Marsh anafu ei ysgwydd yr wythnos ddiwethaf wrth faesu yn y gêm yn erbyn Sussex.
Dywedodd Hugh Morris mewn datganiad: “Roedd Shaun yn mynd adref yn golled fawr ond ry’n ni wedi gweithredu’n gyflym iawn i sicrhau eilydd ac rydyn ni’n ffodus o fod wedi dod â rhywun o safon Joe Burns i mewn.
“Mae e wedi profi’i hun fel cricedwr rhyngwladol sydd wedi rhagori mewn criced pelen wen a phelen goch, a dw i’n sicr y bydd e’n defnyddio’i brofiad blaenorol o chwarae’r gêm sirol i fwrw iddi yn ein hymgyrch yn y Vitality Blast.”
‘Wedi cyffroi’
“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael ymuno â Morgannwg ar gyfer yr ymgyrch T20,” meddai Joe Burns.
“Dw i wedi clywed llawer o bethau da am y clwb ac maen nhw wedi bod yn un o’r timau gorau yn y wlad yn y T20 dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi dechrau’n dda yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
“Gobeithio y galla i helpu’r tîm i fynd am dlws y T20.”
Gyrfa
Fe allai Joe Burns chwarae ei gêm gyntaf dros Forgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd nos Wener, ac fe fydd e’n ymuno â’i gydwladwr Usman Khawaja yn y garfan.
Mae e wedi chwarae mewn 55 o gemau ugain pelawd dros ei wlad, yn ogystal â chwe gêm 50 pelawd a 14 gêm brawf.
Mae Morgannwg wedi ennill dwy gêm ac wedi colli un hyd yn hyn yn y gystadleuaeth ugain pelawd, ac mae ganddyn nhw 11 o gemau’n weddill.
Morgannwg yw trydedd sir Joe Burns yn y gêm sirol yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn cyfnodau gyda Swydd Gaerlŷr a Middlesex.
Yn ystod ei gyfnod gyda Swydd Gaerlŷr yn 2013 – yn eilydd i’r batiwr o India’r Gorllewin Ramnaresh Sarwan – sgoriodd e 71 mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Morgannwg cyn anafu ei goes.
Sgoriodd e 81 heb fod allan yn erbyn Swydd Durham y tymor hwnnw.
Ac fe gymerodd e le ei gydwladwr Adam Voges yng ngharfan Middlesex yn 2015.
Roedd e eisoes wedi gwneud enw iddo fe ei hun gyda 140 yn ei gêm gyntaf yn y Sheffield Shield dros Queensland yn erbyn De Awstralia yn 2011.
Cafodd ei enwi’n Gricedwr Ifanc Don Bradman y Flwyddyn yn 2013 cyn taro 114 i dîm ‘A’ Awstralia ychydig yn ddiweddarach.
Ymddangosodd e mewn gêm brawf am y tro cyntaf yn erbyn India yn 2014, a sgorio dau hanner canred yn yr ail brawf. Daeth ei ganred cyntaf yr un flwyddyn yn erbyn Seland Newydd a chael ei enwi’n seren y gêm, cyn sgorio 128 yn erbyn India’r Gorllewin.
Yn 2017, sgoriodd e ganred dwbl dros Queensland yn erbyn De Awstralia yn y Sheffield Shield, a chael ei enwi yn Nhîm Sheffield Shield y Flwyddyn yn 2018.
Fis Mawrth eleni, cafodd ei alw i garfan brawf Awstralia yn erbyn De Affrica pan gafodd David Warner, Cameron Bancroft a Steve Smith eu gwahardd am ymyrryd â’r bêl.