Mae ymgyrch Morgannwg yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London wedi dechrau heddiw yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.
Mae’r Cymry’n dechrau’r ymgyrch gyda chapten newydd, Colin Ingram, sy’n arwain y tîm undydd eleni yn dilyn ymddeoliad Jacques Rudolph. Gemau undydd yn unig y mae Ingram yn chwarae ynddyn nhw y tymor hwn.
Michael Hogan sy’n arwain y tîm yn y Bencampwriaeth.
Mae’r chwaraewr amryddawn Graham Wagg hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli’r gemau yn y Bencampwriaeth ar ddechrau’r tymor. Ac mae’r batiwr ifanc Jack Murphy yn chwarae yn ei gêm undydd gyntaf erioed ar ôl torri drwodd i dîm y Bencampwriaeth eleni.
Morgannwg sy’n batio yng Ngerddi Sophia.
Gemau’r gorffennol
Morgannwg oedd yn fuddugol y tymor diwethaf, a hynny o 18 o rediadau wrth herio Swydd Gaerloyw yn y gystadleuaeth hon ym Mryste.
Yn ôl Graham Wagg, mae gan Forgannwg obaith o ennill y gystadleuaeth eleni.
“Cyrraedd y ffeinal a’i hennill hi yw’r nod, am wn i. Ry’n ni wedi bod ynddi ers sawl blwyddyn, a Diwrnod Ffeinals y T20 y llynedd, ac wedi bod yn brin o’r nod., felly ry’n ni’n ceisio mynd gam ymhellach eleni.
“Roedd yn dymor anodd y llynedd mewn criced 50 pelawd ond roedden ni’n dal ynddi hanner ffordd drwodd, felly ry’n ni’n ceisio mynd gam ymhellach eto ond yn cymryd popeth un gêm ar y tro.”
Morgannwg: N Selman, J Murphy, C Ingram (capten), S Marsh, C Cooke, D Lloyd, A Salter, G Wagg, T van der Gugten, M de Lange, M Hogan
Swydd Gaerloyw: B Howell, C Dent (capten), I Cockbain, G Roderick, G Hankins, J Taylor, R Higgins, T Smith, D Worrall, M Taylor, C Liddle