Yr Oval
Am yr ail gêm olynol, mae Morgannwg mewn sefyllfa gre’ yn erbyn un o’r cewri criced yn un o’r caeau enwoca’.

Mae’r Cymry 179 ar y blaen ar hanner ffordd eu gêm yn erbyn Surrey yn yr Oval wrth i’r bowlwyr ddynwared y batwyr gyda pherfformiad da.

Mae’r bowliwr cyflym Chris Ashling wedi bachu ei gyfle yn absenoldeb James Harris i gipio wicedi tri batiwr agoriadol Surrey, gan gynnwys Mark Ramprakash. Mae wedi cymryd 3-39.

Ac roedd yna ddwy wiced hefyd i Will Owen, gan gynnwys cyn seren ifanc Morgannwg, Tom Maynard, a adawodd y sir ynghanol helyntion y gaeaf.

Roedd hynny ar ôl i Forgannwg gyrraedd 419 yn eu batiad cynta’ – er gwaetha’ chwalfa fechan ymhlith y batwyr ola’.

Ar un adeg, roedd y sir ar 367-5 ar ôl i’r capten Alviro Petresen gael ei sgôr ucha’ erioed – 210 – ac wedi i Mike Powell ddod o fewn rhediad i’w gant.