Mae cyn-gricedwr Morgannwg, Javed Miandad wedi galw am grogi’r rheiny sy’n euog o dwyllo yn y byd criced.
Daw ei sylwadau wrth ymateb i un o sgandalau mwya’r byd criced ers degawdau, lle mae o leiaf bump o gricedwyr y wlad wedi’u gwahardd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i drefnu canlyniadau gemau.
Dywedodd Javed wrth yr Express Tribune: “Rhaid i’r awdurdodau gymryd camau i atal hyn.
“Pam nad ydych chi’n cymryd camau breision? Dylech chi roi dedfryd o farwolaeth i’r fath bobol. Rhaid i ni beidio â godde’r fath bethau.”
Abdul Qadir
Mae ei sylwadau wedi’u hategu gan un arall o fawrion y byd criced ym Mhacistan, Abdul Qadir.
Roedd Wasim Akram, Inzamam ul-Haq a Mushtaq Ahmed wedi’u hamau o drefnu canlyniadau gemau yn y 1990au, ond chawson nhw mo’u cosbi.
Roedd Ata-ur-Rehman a Salim Malik ymhlith y rhai a gafodd eu gwahardd am dwyllo, ac mae hynny’n annheg, yn ôl y cyn-droellwr coes, Abdul Qadir.
“Pe baech chi wedi crogi Wasim Akram, Inzamam, Mushtaq Ahmed – mae rhestr hirfaith – yn lle rhoi slap iddyn nhw, fyddai’r hyn sy’n digwydd nawr byth wedi digwydd,” meddai wrth yr Express Tribune.
Dywedodd fod Pacistan yn euog o “ddal y drwgweithredwyr bychain a gadael y rhai mwyaf fynd yn rhydd”.
Mae Abdul Qadir hefyd wedi gofyn pam na chafodd adroddiad gan farnwr ym Mhacistan fwy o sylw gan yr awdurdodau criced yn y wlad.
“Mae Wasim, Waqar, Inzamam a Mushtaq naill ai’n gweithio neu wedi gweithio i’r PCB [Bwrdd Criced Pacistan]. Pam na chafodd argymhellion yr Ustus Qayyum eu rhoi ar waith?”
Mae ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd i weithredoedd o leiaf bump o gricedwyr Pacistan sydd wedi’u hamau o dwyllo, ac maen nhw wedi cael eu gwahardd am y tro.