Teyrnged i Barry Lloyd ar wefan clwb criced Morgannwg
Mae teyrngedau wedi cael eu talu i gyn-gapten Clwb Criced Morgannwg, Barry Lloyd, sydd wedi marw’n 63 oed ar ôl salwch byr.
Ymunodd y troellwr o Gastell-nedd â’r clwb ar ddechrau’r 1970au cyn mynd ymlaen i ddatblygu ei sgiliau gyda’r MCC yn 1971 a 1972.
Cafodd ei hyfforddi gan Len Muncer, un o gyn-droellwyr eraill Morgannwg cyn cael ei gyfle gydag ail dîm y sir yn 1971 a’r tîm cyntaf y flwyddyn ganlynol yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.
Ere i fod yn athro o ran ei alwedigaeth, roedd yn neilltuo pob haf ar gyfer criced, ac fe gafodd ei gyfle yn y tîm undydd yn 1973 yn erbyn Swydd Sussex yn Hove.
Aelod cyson
Roedd yn aelod cyson o’r tîm erbyn 1977 ac fe dreuliodd saith tymor gyda’r sir, gan gipio 53 o wicedi dosbarth cyntaf yn 1981, gan gynnwys ffigurau gorau o 8-70 yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yng Nghaerdydd.
Fe gipiodd e 55 o wicedi dosbarth cyntaf yn 1982, gan gynnwys ffigurau undydd gorau ei yrfa, 4-26 yn erbyn y Prifysgolion Cyfun yng Nghaerdydd. Arweiniodd ei berfformiadau’r tymor hwnnw at gael ei enwi’n un o ddau gapten y sir ynghyd â Javed Miandad, ac ennill ei gap yn ogystal.
Pan ddaeth ei yrfa i ben yn 1984, roedd e wedi cipio 311 o wicedi, gan gynnwys 247 o wicedi dosbarth cyntaf.
Arwr lleol
Ar ôl ymddeol o’r gêm broffesiynol, fe dreuliodd gyfnodau gyda Chastell-nedd a Phontarddulais yng Nghynghrair De Cymru, ac fe gynrychiolodd dîm Siroedd Llai Cymru tan 1996.
Ei ferch Hannah oedd y cricedwr cyntaf o Gymru i gynrychioli Lloegr yng Nghaerdydd.
Roedd yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o Glwb Criced Pontarddulais tan ei farwolaeth.
‘Cefnogol dros ben’
Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris Fod Barry Lloyd wastad yn “gefnogol dros ben i’r chwaraewyr Cymreig ifainc yn y garfan, ac roedd e bob amser yn gwisgo’r daffodil â balchder.
“Mae ei golli’n newyddion trist iawn i ni yma ym Morgannwg ac i’r gymuned griced ehangach yng Nghymru, yn enwedig Pontarddulais, ac rydym yn anfon ein meddyliau a’n gweddïau i’w deulu a’i gylch eang o ffrindiau ar yr adeg anodd hon.”
‘Gwas da’
Mewn teyrnged ar eu tudalen Facebook, talodd Clwb Criced Pontarddulais deyrnged i un o’u hoelion wyth a fu’n rhan allweddol o’r clwb ers y 1980au.
Roedd Barry Lloyd yn allweddol wrth hyfforddi chwaraewyr ifainc y clwb, gan gynnwys dau o chwaraewyr presennol Morgannwg, Lukas Carey ac Owen Morgan.
“Roedd Barry, un o gyn-gapteniaid y clwb, yn chwaraewr amryddawn a lwyddodd unwaith i gyflawni’r gamp eithriadol a phrin o gipio 70 wiced a sgorio 700 o rediadau mewn tymor.
“Barry hefyd oedd hyfforddwr y clwb am dros 20 o dymhorau ac mae ei gymorth a’i arweiniad wedi helpu i ddatblygu nifer o gricedwyr rhagorol ar hyd y blynyddoedd, gormod ohonyn nhw i’w cynnwys yn y deyrnged hon.
“Mae ei gyfraniad i griced ar lefel hŷn a ieuenctid wedi bod yn amhrisiadwy ac yn anfesuradwy.”
Teyrnged Twitter
Mewn teyrnged ar eu tudalen Twitter, dywedodd Clwb Criced Castell-nedd: “Trist iawn o glywed am golli Barry Lloyd cyn-chwaraewr, capten a ffrind i @NeathCC. Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau #RIPLoydy.”