Mae Morgannwg wedi colli gêm ola’r tymor criced yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn ail adran y Bencampwriaeth.

Nod o 181 oedd gan Forgannwg gyda dau ddiwrnod llawn yn weddill o’r ornest, ond fe gawson nhw eu bowlio allan am 154, wrth i Charlie Shreck (4-33), Clint McKay (3-42) a Dieter Klein (3-46) achosi’r niwed i’r Cymry.

Dechreuodd Morgannwg yn y modd gorau posib wrth iddyn nhw fowlio’r Saeson allan am 96 ar y diwrnod cyntaf, wrth i Timm van der Gugten, Chwaraewr y Flwyddyn, gipio pum wiced am 52, y pumed tro iddo gyflawni’r gamp eleni.

Wrth ymateb, sgoriodd Morgannwg 199, a’r batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson yn taro 74 heb fod allan, wrth i’r Cymru sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 103.

283 oedd cyfanswm y Saeson yn eu hail fatiad, wrth i Neil Dexter (73) a Gus Robson (72) arwain y ffordd.

Daeth van der Gugten (4-81) o fewn un wiced o ailadrodd ei gamp o gipio pum wiced unwaith eto, ac fe gipiodd Michael Hogan dair wiced am 55 wrth i’r Saeson lwyddo i osod nod digon cystadleuol i Forgannwg.

Roedd amser o blaid Morgannwg gyda dau ddiwrnod llawn i gwrso 181, ond roedden nhw’n 89-4 o fewn dim o dro.

Fe lwyddodd Will Bragg (65) i wrthsefyll y bowlwyr wrth iddo ddod i mewn yn rhif pedwar ac aros wrth y llain tan ddiwedd yr ornest, ond prin iawn oedd y gefnogaeth a gafodd gan y batwyr eraill.