Mae tîm criced Morgannwg wedi sicrhau eu trydedd buddugoliaeth yn unig yn y Bencampwriaeth y tymor hwn ar ôl iddyn nhw guro Swydd Essex o 11 o rediadau yn Chelmsford.
Roedd gan Swydd Essex nod o 264 i ennill ar y diwrnod olaf, ond fe gawson nhw eu bowlio allan am 252 wrth i’r bowliwr cyflym Michael Hogan gipio pum wiced am 45.
Dyma’r ail gêm yn olynol i Hogan gipio pum wiced mewn batiad.
Ond bydd y gêm hon yn cael ei chofio’n bennaf am record Kiran Carlson, 18, y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred yn y Bencampwriaeth i Forgannwg yn dilyn ei 119 yn y batiad cyntaf.
Gosododd Carlson y seiliau yn y batiad cyntaf wrth i Owen Morgan hefyd gyfrannu 55 gyda’r bat wrth i Forgannwg sgorio 286.
Cafodd ymdrechion y ddau Gymro eu gwobrwyo gyda’r newyddion eu bod nhw, ynghyd â Lukas Carey a Jack Murphy, wedi derbyn eu cytundebau proffesiynol cyntaf gyda’r sir.
Wrth i Swydd Essex ymateb, fe sgorion nhw 319 yn eu batiad cyntaf, a’r capten Ryan ten Doeschate wedi sgorio 117. Roedd hanner canred yr un hefyd i James Foster (64) ac Adam Wheater (59).
Y seren ymhlith bowlwyr Morgannwg yn y batiad cyntaf oedd Craig Meschede, wrth iddo gipio pum wiced am y tro cyntaf erioed (5-84).
Roedd Morgannwg ar ei hôl hi o 33 ar ddechrau’r ail fatiad, ond fe gawson nhw ddechrau digon cryf gyda’r capten Jacques Rudolph (56) a Will Bragg (54) yn cyfrannu ar frig y batiad, a Mark Wallace yn taro 78 tua’r diwedd ac yn adeiladu sawl partneriaeth gref i sicrhau bod gan Forgannwg flaenoriaeth swmpus.
Tarodd Varun Chopra 79 wrth i Swydd Essex ddechrau cwrso, ac roedd y Saeson yn 92-1 o fewn dim o dro. Ond buan yr oedden nhw’n 147-5 ac yn dibynnu ar y bowlwyr i’w hachub yn ystod y prynhawn.
Ond roedd ganddyn nhw ormod o dir i’w adennill ac ar ddiwedd prynhawn cyffrous o griced, Morgannwg enillodd y dydd.
Bydd tymor Morgannwg yn dod i ben yr wythnos nesaf wrth iddyn nhw deithio i Grace Road i herio Swydd Gaerlŷr.