Cafodd Graham Wagg ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn yn 2015
Fe gipiodd y bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg dair wiced mewn pelawd i Forgannwg ar ail brynhawn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Sussex yng Nghaerdydd.
Ar ôl dechrau’r dydd ar 111-1, roedd yr ymwelwyr yn 243-6 erbyn amser te, wrth i olau gwael orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae yn gynnar.
Cyn y belawd dyngedfennol gan Wagg, roedd Swydd Sussex wedi bod yn 232-3 ar lain fflat sydd wedi cynnig fawr o gefnogaeth i’r bowlwyr hyd yn hyn.
Christian Davis oedd y pedwerydd batiwr i golli ei wiced, wedi’i ddal gan y wicedwr Mark Wallace.
Cipiodd Wagg ei ail wiced mewn dwy belen wrth i Wallace sicrhau ail ddaliad i waredu capten yr ymwelwyr, Luke Wright heb ychwanegu at y cyfanswm.
Cyn diwedd y belawd, cafodd David Wiese ei fowlio heb sgorio.
Ond buan y penderfynodd y dyfarnwyr fod y golau’n wael a bod angen cymryd te cynnar yn y gobaith o ail-ddechrau’n ddiweddarach.
Ar hyn o bryd, mae Morgannwg naw rhediad ar y blaen, ac mae gan Swydd Sussex bedair wiced yn weddill o’u batiad cyntaf.
Sgoriodd Morgannwg 252 yn eu batiad cyntaf, union 16 o flynyddoedd i’r diwrnod ar ôl i Steve James dorri record y sir am y cyfanswm unigol gorau erioed – 309 heb fod allan – yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ym Mae Colwyn.
Roedd Morgannwg, ar un adeg ddydd Mawrth, yn 56-5, ond fe lwyddodd Mark Wallace (61) a Wagg (57) i sefydlogi’r batiad fel bod y Cymry’n sicrhau ail bwynt bonws.