Mae troellwr llaw chwith profiadol Clwb Criced Morgannwg, Dean Cosker, 38, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb nad yw’r penderfyniad yn ymwneud ag anaf, a’i fod yn ymddeol ar unwaith.

Ymddangosodd Cosker, sy’n enedigol o Swydd Dorset, yn ei gêm gyntaf i’r sir yn 1996, ac roedd yn aelod o’r tîm a gipiodd dlws Pencampwriaeth y Siroedd y tymor canlynol.

Bydd y tîm buddugol hwnnw’n dod ynghyd unwaith eto yng Nghlwb Criced Sain Ffagan ddydd Gwener i godi arian at Ymddiriedolaeth Tom Maynard, a gafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaeth mab capten tîm 1997, Matthew Maynard.

Cosker yw’r unig aelod o’r tîm hwnnw sy’n dal i chwarae i Forgannwg.

Ond mae e wedi cael llai o gyfleoedd yn y tîm dros y tymhorau diwethaf wrth i Forgannwg feithrin doniau Andrew Salter, Kieran Bull ac Owen Morgan.

Mae Cosker wedi cipio 957 o wicedi i Forgannwg a thîm ‘A’ Lloegr ym mhob cystadleuaeth, gan gynnwys 597 o wicedi dosbarth cyntaf.

Roedd yn aelod gwerthfawr o dîm Morgannwg pan enillon nhw’r gynghrair undydd yn 2002 a 2004, ac roedd yn cael ei gydnabod am ei faesu agos.

Mae e hefyd wedi chwarae mewn dwy gêm derfynol i Forgannwg yn Lord’s – yn 2000 a 2013, gan dderbyn ei gap i’r sir yn 2000 a chael blwyddyn dysteb yn 2010.

“Gostyngedig a breintiedig”

Mewn datganiad, dywedodd Cosker ei fod yn “ostynged a breintiedig iawn o fod wedi cael y cyfle i gynrychioli Clwb Criced Morgannwg dros yr 21 o flynyddoedd diwethaf”.

Fe ddiolchodd i’w hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr a’i deulu am eu cefnogaeth.

“Rwy wedi bod yn ffodus iawn wrth fynd ysgwydd yn ysgwydd â rhai o chwaraewyr a chymeriadau gorau’r gêm ac ar y cae ac yn yr ystafell newid, dw i wedi gallu rhannu amserau gwych a fydd yn aros gyda fi fel atgofion gwych am flynyddoedd i ddod.

“Rwy wedi bod wrth fy modd ym Morgannwg ac yn teimlo’n falch o gael dweud mai hon oedd yr unig sir ro’n i am chwarae iddi.

“Mae gadael y troellwyr ym Morgannwg mewn lle cyffrous wedi bod yn bwysig i fi erioed a gyda throellwyr ifainc yn y clwb yn dod i’r amlwg, dw i’n credu bod hyn yn wir.

“Rwy’n gyffrous iawn am y bennod nesaf yn fy mywyd a’r heriau fydd yn dod gyda hynny.”

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae Dean wedi mwynhau gyrfa wych gyda Morgannwg ac mae e wedi bod yn llysgennad arbennig i’r clwb ar y cae ac oddi arno ers dros 20 mlynedd.

“Roedd yn bleser cael chwarae gyda Dean ar ddechrau ei yrfa ac mae wedi bod yn wych cael gweithio â fe dros y blynyddoedd diwethaf fel cricedwr proffesiynol.”

“Mae Dean yn ddyn Morgannwg drwyddi draw ac mae e wedi chwarae rhan bwysig yn llwyddiant y clwb dros y ddau ddegawd diwethaf.

“Diolch i Dean am ei gyfraniad sylweddol iawn i’r clwb ac rydym yn dymuno’n dda iddo fe a’i deulu ar gyfer cam nesaf ei yrfa.”