Gallai tîm criced Morgannwg sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast nos Wener pe baen nhw’n curo Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd.
Mae’r batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram a’r bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, Timm van der Gugten wedi’u hychwanegu at y garfan, ynghyd â’r Awstraliad Nick Selman.
Mae’r wicedwr Chris Cooke wedi’i anafu o hyd, ac fe fydd y wicedwr profiadol Mark Wallace yn parhau i gadw wiced i Forgannwg am y tro.
Ni chafodd yr ornest rhwng y ddau dîm yn Taunton ei chynnal oherwydd y glaw.
Capten Gwlad yr Haf yw cyn-gapten Morgannwg, Jim Allenby, a’u prif hyfforddwr yw un o fawrion Morgannwg, Matthew Maynard.
Mae Morgannwg bedwar pwynt y tu ôl i Swydd Gaerloyw, sydd ar frig y tabl, ond mae ganddyn nhw ddwy gêm wrth gefn.
Byddan nhw’n teithio i Swydd Sussex ac i Swydd Essex ar gyfer y ddwy gêm olaf yr wythnos nesaf.
Carfan Morgannwg: D Lloyd, M Wallace, C Ingram, A Donald, J Rudolph (capten), N Selman, G Wagg, C Meschede, A Salter, T van der Gugten, M Hogan, S Tait, R Smith
Carfan Gwlad yr Haf: J Allenby (capten), M Jayawardene, J Myburgh, J Hildreth, P Trego, T Rouse, R van der Merwe, R Davies, L Gregory, J Davey, P van Meekeren, M Waller, B Green