Mae bowliwr cyflym Morgannwg, Will Owen wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r byd criced proffesiynol.

Mae Owen, 26 o Brestatyn, wedi dioddef o anafiadau parhaus i’w gefn a’i glin.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys Morgannwg yn y Bencampwriaeth ddiwedd tymor 2007.

Wedi iddo gwlbhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, daeth yn aelod o’r tîm cyntaf yn 2011 pan gipiodd 30 o wicedi dosbarth cyntaf a thorri record fatio am y degfed wiced gyda James Harris.

Cyn hynny, roedd Owen wedi sicrhau ei ffigurau bowlio gorau erioed – 5-49 yn erbyn yr Unicorns yn Bournemouth y tymor blaenorol.

Roedd wedi dioddef o nifer o anafiadau yn ystod tymor 2013, ond fe ddychwelodd yn 2014 mewn gemau ugain pelawd yn y T20 Blast.

Ers hynny, mae e wedi cael nifer o lawdriniaethau i geisio dychwelyd i’r cae, ond ofer fu’r ymdrechion.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Will Owen: “Gyda siom o’r mwyaf rwy’n cyhoeddi fy ymddeoliad. Mae’r tymhorau diwethaf wedi bod yn anodd iawn wrth i fi geisio dychwelyd i berfformio ar fy ngorau.

“Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth rwy wedi ei chael gan y clwb, yn enwedig y staff meddygol a chyflyru.

“Wrth i fi edrych yn ôl, rwy’n falch o fod wedi gwireddu fy mreuddwyd o chwarae criced i Forgannwg ac rwy’n dymuno’n dda i’r clwb ar gyfer y dyfodol.”

Wrth dalu teyrnged i Owen, dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae’n drueni mawr fod Will wedi ymddeol o’r gamp pan fo’r oed y byddai chwaraewr yn disgwyl chwarae am nifer o flynyddoedd eto.

“Roedd wedi creu argraff ar adegau yn ystod y tymhorau diwethaf yn y ffurfiau byr a hir ac fe fydd y tîm a phawb yn y clwb yn gweld eisiau ei bersonoliaeth hoffus a’i broffesiynoldeb.

“Dymunwn yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.”