Ar ôl y siom o beidio cyrraedd rownd wyth olaf y T20 Blast nos Wener, mae Morgannwg yn dechrau eu hymgyrch yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London gyda thaith i Swydd Nottingham ddydd Sul.

Mae’r ornest yn cael ei chynnal yng Nghlwb Criced Welbeck Colliery ger  Mansfield.

Dyma ornest gyntaf Swydd Nottingham ar eu tomen eu hunain y tu allan i Trent Bridge ers 2004.

Mae un newid yn y garfan a gollodd yn erbyn Swydd Gaerloyw yn y Swalec SSE, wrth i’r Albanwr Ruaidhri Smith gael ei enwi yn lle’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg, a ddioddefodd ddwy ergyd i’w ben yn y gêm nos Wener.

Swydd Nottingham: A Hales, R Wessels, J Taylor, B Taylor, S Patel, D Christian, S Mullaney, C Read (capten), L Fletcher, J Ball, H Gurney

Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, C Cooke, D Lloyd, A Donald, M Wallace, C Meschede, R Smith, D Cosker, M Hogan