Yn dilyn diwrnod rhwystredig o law a golau gwael, gorffenodd yr ornest rhwng Morgannwg a Swydd Gaerlŷr yn gyfartal ar y diwrnod olaf yn Stadiwm Swalec.
Doedd hi ddim yn bosib dechrau’r gêm cyn cinio oherwydd y glaw.
Ond daeth Angus Robson a Ramnaresh Sarwan i’r llain toc wedi 1.50yp gan wybod fod angen iddyn nhw geisio achub y gêm.
Cafodd yr ymwelwyr eu bowlio allan yn y batiad cyntaf am 109, ac fe lwyddodd Morgannwg i gael blaenoriaeth yn y batiad cyntaf o 241.
Gyda blaenoriaeth o 73 i Forgannwg ar ddechrau’r diwrnod olaf, llwyddodd y bowlwyr Jim Allenby a Michael Hogan i atal yr ymwelwyr rhag ychwanegu’n sylweddol at eu cyfanswm cyn i Hogan gipio wiced Sarwan wnaeth anelu’r bêl i gyfeiriad y wicedwr, Mark Wallace.
Dim ond dwy belen barodd Josh Cobb cyn iddo yntau orfod dychwelyd i’r pafiliwn, gyda chyfanswm yr ymwelwyr bellach yn 181-5.
Heb ychwanegu at eu cyfanswm, Robson (81) oedd y batiwr nesaf i gael ei ddal gan Wallace diolch i sgiliau pêl-droed y wicedwr ei hun a’r slip Jacques Rudolph.
Cipiodd Hogan ei drydedd wiced yn fuan wedyn, wrth i Wallace hefyd ychwanegu at nifer y daliadau a gafodd yn ystod y batiad.
Llwyddodd Hogan i ddarganfod ymyl bat Rob Taylor.
Ymunodd Allenby yn yr hwyl wrth iddo fowlio Anthony Ireland drwy ei goesau.
Gyda’r golau’n dechrau pylu, arbrofodd Morgannwg gyda nifer o fowlwyr araf rhan-amser, gan gynnwys Rudolph a’r batiwr agoriadol Will Bragg.
Ychydig cyn yr egwyl ar ddiwedd yr ail sesiwn a sgôr yr ymwelwyr bellach yn 195-8, penderfynodd y dyfarnwyr fod yr elfennau’n gofyn bod angen tynnu’r chwaraewyr oddi ar y cae.
Wedi i’r glaw gilio, dychwelodd y chwaraewyr am gyfnod ond roedd y golau’n rhy wan i Forgannwg gael defnyddio’r bowlwyr cyflym, felly galwodd y Cymry ar y troellwr llaw chwith, Dean Cosker i fowlio ychydig o belawdau.
Ond heb welliant yn y golau, daeth y chwaraewyr oddi ar y cae unwaith eto a dyna ddiwedd yr ornest pan ddychwelodd y glaw yn ystod y toriad.
Diweddglo siomedig i Forgannwg, felly, ond fe fydd yr ymwelwyr yn falch eu bod nhw wedi llwyddo i osgoi colli’r ddwy wiced olaf a fyddai wedi sicrhau’r canlyniad perffaith i Forgannwg.
Bydd Morgannwg yn teithio i Chelmsford i herio Swydd Essex yn y Bencampwriaeth ddydd Sul, ond fe fyddan nhw’n troi eu sylw at y T20 Blast nos Wener wrth iddyn nhw groesawu Swydd Sussex i Stadiwm Swalec.