Amgueddfa Criced Cymru CC4 ddaeth i’r brig yng nghategori Arloesedd gwobrau’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd yng Nghernyw neithiwr.

Cafodd yr amgueddfa, sydd â’i chartref yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd, ei gwobrwyo mewn seremoni arbennig ym Mhorth Iâ.

Roedden nhw’n herio Dyma Fi TV, BookCity Edinburgh, Siege! at Carrickfergus Castle a Walkabout St Ives am Wobr Arloesedd Kieran Hegarty.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi’n flynyddol er cof am gyn-bennaeth Rhyngweithio a Dysgu BBC Gogledd Iwerddon, fu farw yn 2008.

Roedd hefyd yn gynrychiolydd Iwerddon ar banel y gwobrau.

Curadur yr amgueddfa yw archifydd Clwb Criced Morgannwg, Dr Andrew Hignell.

Cafodd yr amgueddfa ei hagor fis Mawrth diwethaf yn adeilad y Ganolfan Griced Genedlaethol yn y brifddinas, yn y stadiwm sy’n gartref i Glwb Criced Morgannwg.

Mae’n cael ei rhedeg mewn cydweithrediad â chwmni cyfryngau CC4 yng Nghaerdydd, ac mae’n cofnodi hanes dros 250 o flynyddoedd o griced yng Nghymru.

Dywedodd Andrew Hignell ar y noson: “Rwy wrth fy modd gyda’r wobr hon. Llawer o ddiolch i’n noddwyr a’n cefnogwyr. Cymru am byth!”

Gallwch ddarllen mwy am yr amgueddfa yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.