Mae tîm golff Ewrop wedi adennill Cwpan Ryder drwy guro’r Unol Daleithiau o 17½ i 10½ ar gwrs Le Golf National yn Ffrainc.
Cipiodd y cyfandir y tlws wrth i’r Eidalwr Francesco Molinari guro Phil Mickelson o 4&2 er mwyn cyrraedd 14½ o bwyntiau, y sgôr sydd ei angen ar gyfer y fuddugoliaeth.
Mae’n golygu nad yw’r Unol Daleithiau wedi ennill y gystadleuaeth oddi cartref ers 1993.
Sergio Garcia ddaeth i’r brig ar gyfer yr unigolyn â’r nifer fwyaf o bwyntiau (25) yn y gystadleuaeth.
Wrth i gystadleuaeth y senglau ddechrau, yr Americanwyr gafodd y gorau o’r chwarae wrth ennill 3½ o bwyntiau o’r bron, cyn i Jon Rahm, Ian Poulter a Thorbjorn Olesen ennill eu gemau i sicrhau triphwynt arall i Ewrop.
Ac fe ddaeth y fuddugoliaeth pan darodd yr Americanwr Phil Mickelson ei bêl i’r dŵr ac ildio’r twll a’r gêm i Francesco Molinari. Yr Eidalwr yw’r chwaraewr Ewropeaidd cyntaf erioed i ennill pum pwynt mewn un Cwpan Ryder.