Mae’r paffiwr, Joe Calzaghe, wedi rhoi teyrnged i’w dad, Enzo, a fu farw’r wythnos ddiwetha’ yn 69 oed.

Roedd Enzo Calzaghe yn hyfforddwr ar ei fab, a than ei arweiniad fe orffennodd Joe Calzaghe ei yrfa heb golli yr un ornest.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol mae Joe Calzaghe wedi dweud bydd ei dad yn dal wrth ei ochr trwy gydol ei fywyd.

“Dad, dw i’n gweld dy eisiau yn fawr,” meddai yn y neges. “Diolch am fod yna i mi bob amser. Bendith oedd dy gael yn dad ac yn ffrind gorau. Ti oedd fy athro, mentor, a byddi di’n arwr i mi am byth.

“Fe roddest ti hyder i mi pan ddoeddwn i ddim yn credu ynof fi fy hun. Ac fe wnest i mi gredu. Hebot ti, fyddai dim oll wedi bod yn bosib.  Dw i’n diolch i Dduw dy fod wedi bod wrth fy ymyl gydol fy mywyd.”

Fe fydd angladd Enzo Calzaghe yn cael ei gynnal ddydd Gwener yr wythnos hon (Medi 28).