Mae cyfieithydd llawrydd o ardal Aberystwyth wedi casglu dros £4,000 ar gyfer elusen trwy seiclo i’r holl lefydd y mae hi wedi byw ynddyn nhw yn ystod y deugain mlynedd o’i bywyd.
Fe lwyddodd Nia Peris, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, i gyflawni’r her dros gyfnod o dridiau Medi 14-16, gan seiclo dros gan milltir y dydd trwy Gymru, o’r gogledd i’r de.
Roedd hyn i gyd er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen Macmillan, sy’n cynnig cefnogaeth i bobol sy’n dioddef o ganser.
Roedd Nia Peris hefyd yn awyddus i wneud “rhywbeth ychydig yn wahanol” i ddathlu ei phen-blwydd yn ddeugain, yn hytrach na’i ddathlu yn y “ffordd draddodiadol,” meddai.
Y daith
“Fe wnes i benderfynu ein bod ni’n codi arian at elusen sy’n agos at fy nghalon i, sef Macmillan, ac fe wnes i benderfynu fy mod i’n seiclo i’r holl lefydd dw i wedi byw ynddyn nhw yn ystod fy neugain mlynedd – mewn trefn,” meddai wrth golwg360.
“Y diwrnod cynta’, fe wnes i seiclo o Fangor i Ddyffryn Nantlle lle ces i fy magu, ac i lawr i Aber lle fues i yn y coleg; yr ail ddiwrnod i lawr o Aber i Gaerdydd lle bues i’n byw ar ôl coleg am chwe i saith mlynedd, ac wedyn y trydydd diwrnod yn ôl o Gaerdydd i Landre, lle dw i’n byw rŵan.”
“Profiad rhyfeddol”
Yn ôl Nia Peris, sy’n aelod o glwb seiclo ei hun, dyw hi erioed wedi teithio dros 70 milltir ar gefn beic mewn diwrnod o’r blaen, heb sôn am orfod gwneud 100 milltir y dydd dros gyfnod o dridiau.
Er ei bod yn cyfaddef bod y daith wedi bod yn “anodd” ar adegau, gyda’r tywydd ddim yn eu ffafrio bob tro, bu’r daith gyfan yn “brofiad rhyfeddol,” meddai.
“Roeddwn i’n disgwyl bod fy nghoesau’n blino, ond roedd y coesau fel eu bod nhw jyst yn troi.”
Mae hefyd yn dweud ei bod hi wedi cael tipyn o gefnogaeth ar y ffordd, gyda seiclwyr “o bob rhan o Gymru” yn ymuno â hi o bryd i’w gilydd, yn ogystal â thîm cefnogi.
“Roedd yna seiclwyr o Gaerdydd i’n tywys ni allan o Gaerdydd a phan ddethon ni’n agosach at Aberystwyth fe ddo’th yna griw o Glwb Seiclo Caron ac wedyn fy nghlwb seiclo i, Clwb Seiclo Ystwyth, i’n tywys ni adra.”