Ar ddiwrnod cyntaf Gemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia, capten Cymru Non Stanford yw gobaith cyntaf Cymru o ennill medal aur.
Bydd yr athletwraig o Abertawe’n cystadlu yn y triathlon am 12.30 heno (nos Fercher, Ebrill 4).
Dywedodd hi wrth gylchgrawn golwg cyn teithio i Awstralia ei bod hi’n gwireddu “breuddwyd bore oes” wrth gael arwain ei gwlad, a hynny ar ôl colli’r Gemau yn Glasgow bedair blynedd yn ôl oherwydd anaf.
“Mae wedi cymryd amser hir i gyflawni’r nod ac mae cael gwneud hynny’n gapten yn eitha’ arbennig,” meddai.
Mae’n dweud ei bod yn gobeithio “arwain drwy esiampl”, gan mai rôl y capten yw “cynrychioli’r tîm a’i werthoedd, a rhannu yn yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau wrth i’r Gemau fynd yn eu blaen”.
“Wrth i fi gystadlu yn y gamp gynta’ ar gyfer medal gynta’r Gemau,” meddai. “fe fydden i wrth fy modd yn cael dechrau da i’r tîm. Ond, yn bwysicach, mae eu hysbrydoli nhw o ran agwedd, cyn ac yn ystod y ras, yn bwysig – dim ots beth yw’r canlyniad.”
Amserlen Awstralia
- Mae Daniel Jervis, a enillodd fedal efydd yn Glasgow, yn anelu at gyrraedd ffeinal y ras 400m dull rhydd (7.30yh amser lleol; 10.30 amser Cymru), a bydd Ellena Jones a Kathryn Greenslade yn cystadlu yn y 200m dull rhydd i ferched. Bydd Jack Thomas ac Alex Rosser yn cystadlu yn rhagras 200m dull rhydd categori S14 y dynion am 11yb amser lleol, (2yb amser Cymru) gan obeithio cyrraedd y ffeinal gyda’r nos.
- Bydd James Ball a’i beilot Pete Mitchell yn anelu at le ar y podiwm yn Felodrôm Anna Meares yn Brisbane yn ffeinal y treialon amser 1000m i athletwyr gyda nam ar eu golwg (7yh amser lleol, 10yb amser Cymru).
- Bydd athletwr ieuengaf Tîm Cymru, y chwaraewraig tenis bwrdd 11 oed Anna Hursey, yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y Gemau, wrth iddi ymuno â Charlotte Carey a Chloe Thomas mewn gêm tîm grŵp 3 yn erbyn Awstralia (4yp amser lleol; 7yb amser Cymru).
- Bydd yn foment hanesyddol wrth i gapten tîm hoci’r merched, Leah Wilkinson, arwain carfan Cymru i gêm pwll A yn erbyn India (9.30yb amser lleol; 12.30yb). Bydd yn ennill ei 142fed cap a fydd yn ei gwneud y chwaraewraig hoci merched sydd wedi chwarae’r nifer fwyaf o gemau i Gymru. Ar yr un diwrnod bydd ei chyd-chwaraewyr Izzy Howell a Caro Hulme, sydd ill dwy ond yn ddeunaw oed, yn chwarae am y tro cyntaf i’r garfan hŷn.
- Bydd tîm hoci’r dynion yn cychwyn ar eu hymgyrch yn erbyn Pakistan ym mhwll B (7yh amser lleol; 10.30yb amser Cymru).
A fory (dydd Iau, Ebrill 5)…
- Bydd y bocsiwr 64kg Billy Edwards, o Glwb Dyffryn ym Mae Colwyn, yn wynebu Alston Ryan o Antigua yn Stiwdios Oxenford (12.30yp amser lleol; 12.30yb amser Cymru).
- Yn y bowlio lawnt, bydd Laura Daniels yn chwarae dwy gêm Sengl, a bydd cystadleuaeth Triawdau a Pharau y dynion, Parau Cymysg B2/B3, Triawdau B6/B7/B8 a Phedwarawdau’r Merched hefyd yn cael eu cynnal.