Bydd Cymro profiadol yn chwarae yn ei ‘major’ cyntaf yn yr Unol Daleithiau heddiw.

Bydd Jamie Donaldson yn cystadlu yn ‘major’ golff olaf y flwyddyn – pencampwriaeth yr USPGA – yn Atlanta, Georgia heddiw.

Er nad oes llawer draw yn America yn adnabod ei enw, mae’r gŵr o Bontypridd yn haeru nad yw yn y gystadleuaeth er mwyn rhoi hwb i’r niferoedd yn unig.

“Rydw i yma er mwyn cystadlu fel pawb arall,” meddai.

Cychwynnodd y golffiwr 35 oed ei ymgyrch heddiw am 2.10pm amser Cymru mewn grŵp sy’n cynnwys yr Americanwyr, Robert Garrigus a Jeff Sorenson.

Donaldson yw’r unig Gymro yn y maes yr wythnos hon. Cafodd gynnig lle er iddo lithro y tu allan i’r 100 gorau yn y byd ar y rhestr detholion.

Dyma’r ail ‘major’ i Donaldson gael cymryd rhan ynddi. Bu hefyd yn cystadlu yn Hoylake, Lerpwl ym mhencampwriaeth Agored Prydain yn ôl yn 2006.

“Fydda i ddim yn paratoi’n wahanol y tro yma i gymharu ag unrhyw gystadleuaeth arall,” meddai wrth y BBC.

“Mae’r un fath a phob twrnamaint arall. Mae’n amlwg yn achlysur mawr, ond fe fydda i’n mynd amdani yn yr un modd ag arfer.”

Mae Donaldson wedi llwyddo i orffen yn y deg uchaf pump o weithiau ar y daith Ewropeaidd y tymor yma, ac mae’n obeithiol y gall greu argraff yn ei ‘major’ cyntaf ers pum mlynedd.