Bydd tua 50 o athletwyr yn ceisio cwblhau’r her o deithio o lefel y môr i gopa Cader Idris heddiw.
Cafodd Caderman eu sefydlu yn 2011 gan Geraint Rowlands, oedd wedi cymryd pedair awr i’w chwblhau.
Yn 2012, gorffennodd Dan Rushton y Caderman gyntaf mewn dwy awr 21 munud a 35 eiliad.
Yn 2013, roedd mwy o bobol wedi cystadlu mewn tywydd erchyll, ac fe gafodd y beicwyr gymorth gwynt cryf i ddringo allt Tal y Llyn. Enillodd Andy Mitchell y ras mewn dwy awr 14 munud a 38 eiliad.
Roedd unarddeg wedi cymryd rhan yn 2014 gyda Dan Rushton yn ail-gipio’r record gan orffen mewn dwy awr, pedair munud a 38 eiliad.
Mae’r Caderman yn dechrau ar draeth Tywyn ac yn gorffen ar gopa Cader Idris.
‘Tipyn o her’
Mae Darren Vaughan, 38, yn hanu o Dywyn ac fel un sy’n cymryd rhan mewn nifer o heriau triathlon, roedd rhaid iddo fentro eleni yn ei fro ei hun.
“Mae’n dipyn o her, gorffen triathlon ar gopa mynydd. Dwi wedi cystadlu yn triathlons Harlech, Pwllheli, Abersoch a Chaerdydd ond yn sicr bu hon yn anoddach.
“Dwi am drio’r sprint blwyddyn yma a gobeithio neud yr un eithafol blwyddyn nesa. Mae’n wych bod digwyddiad fel ma’ yn dod i’r ardal hyfryd hon.
“Rwyf wedi bod i fyny dwywaith yn ddiweddar i ragchwilio’r cwrs, felly gobeithio gallai ymdopi á 3 milltir o redeg i fyny Cader.
“Gyda cyn chwaraewyr rygbi Cymru, Shane Williams a Ryan Jones yn cymryd rhan dwi’n sicr bu’n ddiwrnod da.”
Mae dau gwrs eleni, gyda’r Ras Wib yn cynnwys nofio am 600 metr, seiclo am 37km a rhedeg 5km, a’r Ras Eithafol yn cynnwys nofio am 1,900 metr, seiclo am 90km a rhedeg 21.1km.