Brwydrodd Swydd Gaerloyw yn ôl ar ddiwrnod cyntaf eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg ar Barc Spytty yng Nghasnewydd ddoe, diolch i 152 gan James Bracey, fel eu bod nhw’n dechrau’r ail ddiwrnod heddiw ar 360 am chwech.
Dyma oedd pedwerydd canred y batiwr 22 oed yn ei yrfa dosbarth cyntaf, a’i drydydd yn erbyn Morgannwg, ac fe fydd Morgannwg yn falch o fod wedi cipio’i wiced ar ddiwrnod anodd ar y cyfan i’r bowlwyr.
Bowlwyr Morgannwg yn dechrau’n gryf
Ar ôl aros 65 o flynyddoedd i griced dosbarth cyntaf ddychwelyd i Gasnewydd, tair pelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg gipio’u wiced gyntaf, pan gafodd Miles Hammond ei ddal gan Kieran Bull yn y slip oddi ar fowlio Marchant de Lange.
Roedd yr ymwelwyr yn 50 am ddwy pan darodd Graham Wagg goes y capten Chris Dent o flaen y wiced am 14, a thair pelawd yn ddiweddarach, cafodd George Hankins ei fowlio gan David Lloyd am dri wrth i’r bêl ddechrau gwyro, a’r sgôr yn 55 am dair.
Roedd yn ymddangos, felly, fod y penderfyniad i wahodd Swydd Gaerloyw i fatio yn mynd i dalu ar ei ganfed o’r dechrau’n deg i Forgannwg.
Tro y batwyr i ddisgleirio
Ond cynigiodd James Bracey sefydlogrwydd i’r Saeson ben draw’r llain, wrth iddo sgorio canred oddi ar 145 o belenni, ar ôl taro 17 pedwar.
Cyrhaeddodd Gareth Roderick ei hanner canred oddi ar 113 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar, ac roedd e heb fod allan ar 74 erbyn amser te, a James Bracey heb fod allan ar 127, a’r sgôr yn 236 am dair.
Parhau i gosbi Morgannwg wnaeth batwyr Swydd Gaerloyw, ar lain oedd yn dechrau cynnig llai a llai i’r bowlwyr wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen.
Roedd y bartneriaeth am y bedwaredd wiced yn werth 199 erbyn i Timm van der Gugten daro coes Gareth Roderick o flaen y wiced am 88, a Swydd Gaerloyw’n 254 am bedair. Roedden nhw wedi para 52.1 o belawdau ar ôl i Forgannwg gipio’u pwynt bowlio cyntaf gyda’r drydedd wiced.
Morgannwg yn brwydro’n ôl
Daeth trobwynt toc ar ôl i James Bracey gyrraedd 150 oddi ar 234 o belenni, gan gynnwys 18 pedwar, pan gafodd Benny Howell ei fowlio gan Marchant de Lange am 35, a Swydd Gaerloyw’n 309 am bump ar ôl partneriaeth o 55.
Cwympodd wiced fawr James Bracey o fewn dim o dro, wrth iddo gael ei ddal gan Charlie Hemphrey yn y slip oddi ar fowlio Marchant de Lange am 152, a’r sgôr yn 314 am chwech. Roedd ei fatiad wedi para pum awr 40 munud.
Ryan Higgins (25) a Graeme van Buuren (21) oedd wrth y llain ar ddiwedd y dydd.