Lois Cernyw ac Alun Williams o raglen Stwnsh
Tra’n rhybuddio fod angen sicrwydd ariannol tymor hir i S4C yr wythnos hon, mae Carwyn Jones hefyd wedi dweud ei fod yn credu bod yr arlwy ar deledu yn Gymraeg yn dda.

Yn bersonol mae’n hoffi gwylio chwaraeon er mwyn osgoi’r gwleidyddiaeth y tu allan i oriau gwaith.

Ond mae’n tueddu i wylio’r un rhaglenni a’i blant hefyd.

“Y broblem sydd gyda fi yw fi ffili gweld y teledu am bod dau o blant gyda fi. Felly rydym ni yn tueddu gwylio beth mae nhw moen gwylio. Mae nhw yn gwylio Stwnsh ar fore Sadwrn, alla i ddweud hynna wrthoch chi!”