Mae’r cynhyrchydd ffilmiau, Bernardo Bertolucci, wedi marw yn 77 oed .
Fe enillodd Oscar am ei ffilm The Last Emperor, ac fe ysgwyddodd y byd gyda’i ffilm ertoig Last Tango In Paris.
Bu farw Bernardo Bertolucci yn ei gartref yn Rhufain yng nghwmni ei deulu.
Mae’n enwog am ei ffilmiau yn archwilio cysylltiadau rhywiol rhwng cymeriadau yn sownd mewn argyfwng seicolegol, fel y gwelir yn Last Tango In Paris.
Roedd yr Eidalwr yn seren ryngwladol oedd wastad yn amddiffyn ei arddull ei hun yn erbyn pwysau gan y diwydiant ffilm yn America.
Fe dderbyniodd lawer o glod a thipyn o feirniadaeth yn ystod ei yrfa am ei ffilmiau dadleuol yn ymwneud â rhyw.