Clawr Neigwl, albwm newydd Dan Amor
Dydd Llun roedd y cerddor amryddawn, Dan Amor yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, Neigwl.
Roedd yn gyfle i Golwg360 gwrdd â’r gŵr o Benmachno am sgwrs mewn cyfweliad fideo arbennig lle bu’n trafod ei ganeuon newydd a phwysigrwydd yr albwm fel cyfrwng.
Mae’r casgliad un ar ddeg trac yn dilyn ei albyms blaenorol, Dychwelyd (2005) ac Adlais (2008) ac mae arddull ei gerddoriaeth wedi esblygu eto ar gyfer yr albwm newydd.
“Mae o’n reit wahanol i stwff dwi wedi gwneud yn y gorffennol” meddai Dan Amor wrth Golwg360.
“Mewn ffordd mae ‘na lai yn digwydd” ychwanegodd.
Albyms yn bwysig
Penderfynodd y cerddor logi bwthyn oedd yn edrych dros fae Porth Neigwl er mwyn gweithio ar y caneuon newydd – ffaith sy’n egluro teitl yr albwm.
Mae’r albwm wedi’i ryddhau ar label Dan Amor ei hun, sef Recordiau Cae Gwyn.
Mae’r label hefyd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau deunydd Sen Segur eleni – sef grŵp brawd bach Dan, George, sydd hefyd yn aelod o’i fand byw yntau.
Yn ystod y cyfweliad mae Dan hefyd yn sôn am bwysigrwydd yr albwm fel cyfrwng bellach wrth i lawr lwytho cerddoriaeth ddod yn fwyfwy cyffredin.
“Mae o’n bwysig fel fformat, yn enwedig i bobol sy’n really caru miwsic” meddai Dan Amor.
“Pan dwi’n dewis tracklist dwi’n gweld y peth fel rhywbeth sy’n rhedeg o un lle i’r llall.”
Gwyliwch y sgwrs lawn â Dan Amor isod. Mae cyfweliad arall â Dan Amor yn rhifyn wythnos diwethaf o gylchgrawn Golwg.
Gwrandewch ar y gân ‘Yr Anhaeddiannol’ o’r albwm isod.