Mae’r grŵp, Colorama wedi cyhoeddi cyfres o gigs i gyd-fynd â lansio eu cryno albwm newydd.
Bydd Colorama yn perfformio mewn chwech o leoliadau yng Nghymru a Lloegr ar ddiwedd Hydref a dechrau Tachwedd i hyrwyddo eu CD newydd.
Mae ‘Llyfr Lliwio’ yn cael ei ryddhau ar 31 Hydref, ac yn cynnwys saith o ganeuon newydd gan y grŵp sy’n cael eu harwain gan y cerddor amryddawn, Carwyn Ellis.
Amserlen wedi llithro
Wrth siarad â chylchgrawn Y Selar yn eu rhifyn mis Awst, dywedodd Carwyn eu bod yn gobeithio rhyddhau’r albwm erbyn diwedd mis Medi.
Erbyn hyn, mae’r amserlen wedi llithro rhywfaint, ond mae newyddion da i’r ffans Cymreig sef bod modd eu gweld yn perfformio’r caneuon newydd yn Aberhonddu a Chaerdydd.
“Mae’r mini-album yn ddatblygiad o sŵn y band” meddai Carwyn Elis wrth Y Selar.
“Mae cwpl o’r trefniannau’n syml, ond peth o’r stwff yn fwy dwfn a chymhleth hefyd.”
Bydd Colorama hefyd i’w gweld yn perfformio yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd yn Theatr y Chapter ar 22 Hydref.
Manylion llawn y daith:
29 Hydref – Market Tavern, Aberhonddu
5 Tachwedd – Birkenhead Priory, Penbedw
6 Tachwedd – Puzzle Hall, Sowerby Bridge
9 Tachwedd – Gwdihw, Caerdydd
10 Tachwedd – The Slaughtered Lamb, Llundain
11 Tachwedd – The Kings Arms, Manceinion