Gwefannau sy’n hysbysebu tai dros y We yw un o’r prif resymau am y mewnlifiad i ardaloedd Cymraeg erbyn hyn, yn ôl bardd a darlledwr adnabyddus.

Mae pobol yn gallu chwilio am tŷ trwy deipio’r math o bris y maen nhw am ei dalu a dod o hyd i gartref mewn ardaloedd cwbl ddieithr, meddai Aneirin Karadog.

Roedd y prifardd o Gwm Gwendraeth yn siarad mewn noson ‘Golwg ar Grwydr’ yng Nghaerfyrddin neithiwr, dan adain y cylchgrawn wythnosol.

‘Boddi’

“Dw i’n teimlo ein bod ni’n cael ein boddi,” meddai Aneirin Karadog, “ac mae llawer o’r bai ar wefannau arwerthwyr ar y We. Mae rhywun yn Essex yn gallu teipo pris i mewn a lando ym Mhontyberem.”

Fe alwodd am becynnau croeso i’w rhoi i bobol sy’n symud i Gymru er mwyn tynnu sylw at yr iaith a’r diwylliant ac roedd eisiau i’r Llywodraeth weithredu heb ddibynnu’n llwyr ar addysg.

“Wrth i’r Llywodraeth anelu at filiwn o siaradwyr, y peryg yw y byddwn ni fel Iwerddon – fyddwn ni’n gallu siarad Cymraeg, ond fyddwn ni’n siarad Saesneg.”

Yn ôl Gruff Owen, o’r label gerddoriaeth Libertino, roedd angen i ni fod yn llawer mwy agored ynghylch ein diwylliant ac yn barod i’w hyrwyddo.